Masnachu ar y Stryd

Mae'r rhan hon o'r wefan yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â chaniatâd i gynnig unrhyw nwyddau (gan gynnwys bwyd) ar werth i'r cyhoedd o leoliad sefydlog e.e. stondin neu gerbyd, ac mae'n cynnwys arwerthiannau cist car, marchnadoedd a gosod cerbydau i'w gwerthu ar ochr y ffordd.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Rheolau Masnachu ar y Stryd yn Nhorfaen

Ar 30 Mehefin 2009, cytunodd y cyngor i ddiwygio'r rheolaeth ar fasnachu ar y stryd ym mwrdeistref Torfaen er mwyn dynodi'r holl strydoedd yn strydoedd caniatâd, heblaw'r rhai a ddynodwyd yn strydoedd gwaharddedig. Daeth y penderfyniad hwn i rym ar 10 Awst 2009.

Mae hyn yn golygu na allwch gynnig unrhyw nwyddau i'w gwerthu ar stryd waharddedig o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'n rhaid i chi gael caniatâd cyn y gallwch gynnig unrhyw nwyddau i'w gwerthu ar unrhyw stryd arall. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallech gael eich erlyn yn droseddol. Gellir cael caniatâd gan Is-adran Drwyddedu Torfaen.

Er mwyn eich helpu i ddeall y darpariaethau ynghylch masnachu ar y stryd, gweler y polisi cymeradwy Polisi Gweithredu ar gyfer Masnachu ar y Stryd.

I gael mwy o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01633 647284/647286.

Diffiniadau a bennir gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Masnachu ar y Stryd: ystyr hyn yw gwerthu neu amlygu neu gynnig unrhyw eitem i'w gwerthu (gan gynnwys peth byw) ar stryd.

Stryd: caiff stryd ei diffinio fel "Unrhyw ffordd, troedffordd, traeth neu ardal arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt yn ddi-dâl, ac ardaloedd gwasanaeth fel y'u diffinnir o dan Adran 329 Deddf Priffyrdd 1980".

Stryd Waharddedig: lle y caiff masnachu ei wahardd yn llwyr.

Stryd Ganiatâd: lle y mae angen caniatâd cyn y gellir masnachu.

Oriau Agor Swyddfa

Mae'r oriau agor ar gyfer ymwelwyr personol i'r swyddfa yn New Inn ar gyfer y tîm trwyddedu yw dydd Llun i ddydd Gwener 9:00-12:00 canol dydd. Lle mae hyn yn achosi anawsterau, mewn amgylchiadau eithriadol, gellir gwneud apwyntiad i ymweld y tu allan i'r oriau hyn. Cysylltwch â'r swyddfa i drefnu hyn. Rydym hefyd ar gael ar y ffôn (01633 647284) 9:00-16:30.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647284

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig