Gwaith Stryd - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Gwaith Stryd
Crynodeb o'r Drwydded 

Mae cwmnïau cyfleustodau ac awdurdodau priffyrdd yn cael trwydded gan yr Ysgrifennydd Gwladol i osod a chynnal cyfarpar ar y briffordd gyhoeddus. Mae deddfwriaeth hefyd yn caniatáu i unigolion preifat gael trwydded; rhaid iddynt wneud cais am y drwydded i'r awdurdod priffyrdd perthnasol, sy'n ei gweinyddu hefyd.

 

Rhoddir trwyddedau o'r fath o dan Adran 50 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ac maent yn ddilys am y cyfnod y mae'r cyfarpar yn parhau ar y briffordd gyhoeddus.

 

Mae'r drwydded yn caniatáu am osod y cyfarpar, gwaith cynnal a chadw arno yn y dyfodol (er enghraifft, atgyweiriadau) a'i dynnu ymaith. Deiliad y drwydded sy'n gyfrifol am sicrhau bod y drwydded yn cael ei diwygio yn achos trosglwyddo perchenogaeth y tir (pan gaiff tir ei werthu i barti arall).

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae'n rhaid i berchennog y cyfarpar arfaethedig a/neu'r tir y bydd y cyfarpar yn ei wasanaethu wneud cais am y drwydded. Bydd angen i'r ymgeisydd ystyried a derbyn y cyfrifoldebau a osodir ar ddeiliad trwydded a darparu:

 

  • Manylion llawn y cyfarpar arfaethedig, gan gynnwys ei fath, ei ddiben, y dull adeiladu a'r lleoliad.
  • Tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n ddilys am gyfnod llawn y drwydded arfaethedig, gydag yswiriant am o leiaf £10,000,000 
  • Cadarnhad mai nhw yw perchennog y cyfarpar/y tir
Crynodeb o'r Rheoliad

Yn fyr, mae'n ofynnol i ddeiliad y drwydded:

 

  • Gysylltu â phob sefydliad a allai fod â buddiant yn y briffordd (cwmnïau cyfleustodau ac ati) i'w hysbysu am y cynnig, roi cyfle iddynt gyflwyno gwrthwynebiadau neu bryderon a chael copïau o gyfarpar sy'n bodoli eisoes yn y lleoliad dan sylw. Mae rhestr o gysylltiadau ar gael ar gais.
  • Sicrhau bod y gwaith yn cael ei gynllunio'n gywir a'i gyflawni'n gyflym.
  • Sicrhau bod yr holl amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded yn cael eu bodloni.
  • Hysbysu'r awdurdod priffyrdd am unrhyw broblemau sy'n codi.
  • Darparu lluniad 'fel yr adeiladwyd' ar adeg cwblhau'r gwaith.
  • Sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei gynnal a'i gadw ac nad yw'n achosi perygl i'r cyhoedd na difrod i seilwaith y briffordd, gan gynnwys cyfarpar arall.
  • Indemnio'r awdurdod priffyrdd yn erbyn pob hawliad, gan gynnwys anaf, difrod neu golled sy'n deillio o unrhyw agwedd ar y cyfarpar neu'r adeiledd a drwyddedwyd, gan gynnwys gosod, cynnal a chadw a thynnu'r cyfarpar ymaith a hefyd o ganlyniad i bresenoldeb y cyfarpar neu'r adeiledd. Felly, mae'n angenrheidiol bod yswiriant addas wedi'i drefnu am gyfnod y drwydded sy'n werth o leiaf £10,000,000 ar gyfer pob hawliad, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer yr hawliadau.
  • Sicrhau bod y drwydded yn cael ei throsglwyddo'n gywir i drydydd parti os caiff y tir/cyfarpar ei werthu.

Rhaid talu ffïoedd ar adeg cyflwyno'r cais a gallai amodau pellach gael eu gosod yn ychwanegol at yr amodau safonol.

Proses Gwerthuso Cais

Y broses werthuso:

 

  • Rhaid talu am y cais ymlaen llaw, cyn yr asesiad.
  • Bydd y cais yn cael ei ddilysu i sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ef/hi yw perchennog y cyfarpar a'i fod yn cytuno ag amodau'r drwydded.
  • Bydd y cynnig yn cael ei adolygu a rhoddir ystyriaeth i opsiynau eraill, yr effaith ar y briffordd a'r risg bosibl i seilwaith y briffordd a'r cyhoedd.
  • Bydd tystiolaeth o gytundebau trydydd parti'n cael ei hadolygu os yw hynny'n berthnasol (fel cytundebau i gysylltu â charthffosydd cyhoeddus ac ati).
  • Bydd y dull gosod ac adeiladu arfaethedig yn cael ei ystyried.
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Rhaid cael caniatâd o dan Adran 50 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 cyn y gellir gosod cyfarpar newydd ar y briffordd gyhoeddus. Ein nod yw prosesu ceisiadau o fewn pymtheg diwrnod, ond os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn y 15fed diwrnod, cysylltwch â'r Awdurdod Priffyrdd.

Gwneud cais ar-lein

Os ydych am wneud cais am Drwydded Gwaith Stryd, lawrlwytho copi o'r cais i osod offer yn y ffurf y briffordd yma.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddo gyflwyno apêl i'w Lys Ynadon lleol. 

  

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynglwm wrth ei drwydded gyflwyno apêl i'w Lys Ynadon lleol.

Cwynion gan Ddefnyddwyr 

Os ydych am wneud cwyn, byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/12/2020
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdogaeth

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig