Trwyddedau Sgipiau

Mae'n rhaid i bob sgip a osodir ar y briffordd gyhoeddus gael trwydded. Mae'n gyfrifoldeb ar y cwmni sy'n darparu'r sgip i gysylltu â'r Cyngor i ofyn am ganiatâd i'w roi ar y briffordd.

Ni fydd trwydded yn cael ei rhoi i aelod o'r cyhoedd.

Rhaid darparu copi o Yswiriant Atebolrwydd cyn yr eir ati i gymeradwyo'r drwydded. Ni fydd unrhyw drwyddedau yn cael eu rhoi i gwmnïau heb yswiriant atebolrwydd dilys nad yw'n fwy na £10,000,000.

Mae angen trwyddedau i sicrhau nad yw sgipiau yn cael eu gosod mewn ffordd sy'n atal mynediad i eiddo neu gyfarpar ar y briffordd, lleihau lled y briffordd i raddau annerbyniol neu gyfyngu gwelededd ar gyffyrdd, mynedfeydd a mannau croesi. Os effeithir ar unrhyw un o'r rhain yn ystod y cyfnod y lleolir y sgip rhaid cysylltu â'r Awdurdod Priffyrdd a rhaid trefnu ymweliad safle i drafod y sefyllfa. Fodd bynnag, rhaid gwneud hyn cyn gosod y sgip.

Rhaid i chi beidio â rhoi sgip ar y Briffordd Gyhoeddus heb drwydded gennym ni. Rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd wrth wneud cais am drwydded.

Rhaid bod y sgipiau wedi'u marcio'n glir gydag enw'r perchennog, cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt mewn argyfwng 24 awr.

Y ffioedd am drwydded sgip yw £55 yr wythnos neu ran o wythnos (i'w dalu ymlaen llaw).

Rhaid rhoi gwybod i'r awdurdod pan fydd y sgip yn cael ei symud.

Os na cheir trwydded neu os na chydymffurfir â'r amodau a nodir, gall y cwmni sy'n troseddu fod yn agored i erlyniad.

Bydd unrhyw sgip (sydd wedi ei gosod yn anghyfreithlon neu fel arall) y tybir ei bod yn beryglus yn ôl yr awdurdod yn cael ei symud a'i storio a rhoddir gwybod i'r cwmni perthnasol ac ail-godir tâl arnynt. Bydd unrhyw sgip nad yw'n cydymffurfio â'r uchod neu ar y Briffordd heb drwydded yn cael ei hystyried yn anghyfreithlon. Mewn amgylchiadau o’r fath, codir tâl cychwynnol o £182 ar gyfer y ffi am beidio â chydymffurfio â’r polisi hwn. Os ystyrir yn briodol gan yr Awdurdod Priffyrdd, bydd ffi o £160 hefyd yn cael ei chodi i gael gwared ar y sgip, a chodir ffi o £50 y dydd i storio' sgip tan iddi gael ei chasglu.

Dylid nodi bod methiant i gael trwydded berthnasol a diweddar yn golygu y bydd y sgip yn cael ei thrin fel sgip anghyfreithlon (os bydd hi'n cael ei rhoi ar y Briffordd). Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd hyn golygu y bydd eich yswiriant yn ddi-rym.

Amodau Cymeradwyo

  • Rhaid i chi indemnio'r Cyngor Bwrdeistref yn erbyn pob hawliad, waeth sut yr achoswyd, neu sy'n deillio o neu y gellir ei briodoli i osod y sgip a gwaith arall sydd i'w wneud, a dylech yswirio mewn perthynas ag atebolrwydd a osodir gan yr amodau. Rhaid sicrhau bod copi o dystysgrif yr yswiriwr perthnasol wedi'i hamgáu.
  • Rhaid i'r sgip ddangos enw'r perchennog yn glir yn ogystal â'i enw/ cyfeiriad a rhif ffôn 24 awr.
  • Bydd y sgip yn cael ei lleoli ar drawstiau pren (o leiaf 2)
  • Bydd y sgip wedi ei phaentio mewn lliw llachar i sicrhau ei bod yn cael ei gweld.
  • Bydd digon o oleuadau ar y sgip pan fydd hi'n dywyll
  • Perchennog y sgip fydd yn gyfrifol am gynnwys y sgip a difrod sut bynnag y bydd yn digwydd yn sgil storio tra ar y briffordd gyhoeddus.
  • Bydd yr ymgeisydd yn cytuno i gael gwared ar y sgip ar gais Swyddog o'r Cyngor ac mewn unrhyw achos dim mwy na 48 awr ar ôl iddi gael ei llenwi.
  • Rhaid i'r sgip ddangos marciau fflwroleuol coch a melyn ar bob pen fel y nodir yn Atodlen 2 y rheoliadau.
  • PEIDIWCH â rhoi sgip ar gorneli dall
  • PEIDIWCH â rhoi sgip ger cyffyrdd 'Ildio
  • PEIDIWCH â rhoi sgip mewn safleoedd bws
  • PEIDIWCH â rhoi sgip mewn parthau croesfannau ysgol
  • PEIDIWCH â rhoi sgip ar ymylon ffyrdd

Nid oes copïau gwag o drwyddedau ar gael. Rhaid i’r cwmni gysylltu â’r awdurdod er mwyn cael y drwydded. Gallwch wneud cais am drwydded sgip ar lein yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Highways Maintenance

Ffôn: 01495 766797

Ebost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig