Strwythur sy'n Ymwthio Allan Dros/O Dan y Briffordd - Gwneud Cais am Drwydded

Strwythur sy'n Ymwthio Allan Dros/O Dan y Briffordd
Crynodeb o'r Drwydded 

Os hoffech adeiladu neu ymestyn adeilad dros neu ar y briffordd gyhoeddus, bydd angen trwydded arnoch. Sylwer y gall priffordd gynnwys ffyrdd, palmentydd ac ymylon ffordd. Gallai'r cyfarpar preifat gael ei osod dros dro neu'n barhaol. Mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys llinell ffôn breifat sy'n ymestyn dros stryd a rhwng adeiladau, neu ganopi bychan ar adeilad. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrin â'r math hwn o drwydded o dan Adran 178 Deddf Priffyrdd 1980. Ymdrinnir ag ymestyniadau mawr o adeiladau, h.y. balconïau, canopïau strwythurol neu fargodion cyffredinol ar adeiladau, o dan Adran 177 Deddf Priffyrdd 1980. Hefyd, yn ogystal â chael caniatâd cynllunio, rhaid cael trwydded i adeiladu seler newydd sydd o dan y ffordd gerbydau neu'r ffordd droed, ac ymdrinnir â hyn o dan Adran 179 Deddf Priffyrdd 1980.

Meini Prawf Cymhwysedd 

Rhaid i'r cais gael ei wneud gan berchennog yr ymestyniad arfaethedig a/neu'r tir y mae'r ymestyniad ynghlwm wrtho.

 

Bydd angen i'r ymgeisydd ystyried a derbyn y cyfrifoldebau a osodir ar ddeiliad trwydded.

Ffïoedd

Rhaid talu ffïoedd a bydd amodau ynghlwm.

Proses Gwerthuso Cais

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i brosesu eich cais mor gyflym â phosibl. Oherwydd natur y drwydded hon a buddiant trydydd parti, ein nod fydd caniatáu trwyddedau o fewn 30 diwrnod gwaith o ddyddiad y cais. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar gael yr holl ddogfennau a chynlluniau gofynnol.

 

Y broses werthuso:

 

  • Rhaid derbyn y taliad ar gyfer y cais ymlaen llaw, cyn asesu
  • Caiff y cais ei ddilysu i sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ef/hi yw perchennog yr ymestyniad a'i fod/bod yn cytuno i amodau'r drwydded 
  • Caiff y cynnig ei adolygu a rhoddir ystyriaeth i opsiynau eraill, yr effaith ar y briffordd a'r risg bosibl i seilwaith y briffordd ac i'r cyhoedd 
  • Bydd tystiolaeth o gytundebau trydydd parti'n cael ei hadolygu os yw'n berthnasol
  • Caiff y gosodiad a'r dull adeiladu arfaethedig eu hystyried 
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen brosesu eich cais cyn ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed oddi wrth y Cyngor o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

Sut i Ymgeisio

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded y cais ar gyfer adeiladu strwythur dros, o dan neu uwchben y briffordd ffurflen y gellir ei lawrlwytho yma.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Gwasanaethau Cymdogaeth
Is-adran y Rhwydwaith Priffyrdd
Ffordd Panteg
New Inn
Pont-y-pŵl
NP4 0LS

 

Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd, gall apelio i'w Lys Ynadon lleol.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Gwasanaethau Cymdogaeth

Is-adran y Rhwydwaith Priffyrdd
Ffordd Panteg
New Inn
Pont-y-pŵl
NP4 0LS

 

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded apelio i'w Lys Ynadon lleol.

Apeliadau a Chwynion

Os ydych am wneud cwyn, byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r Adran berthnasol eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647279

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig