Ymchwilio i Hanes y Teulu

Mae nifer o gamau i'w dilyn pan fyddwch yn ymchwilio i hanes teuluol:

  • Holwch aelodau'r teulu am wybodaeth - ffynhonnell werthfawr iawn
  • Cysylltwch â chymdeithasau hanes teuluol lleol
  • Edrychwch ar wybodaeth o Gyfrifiadau, a chofnodion eraill a gedwir yn aml yn Archifdai a Llyfrgelloedd y Sir. Mae Archifau Gwent yng Nglyn Ebwy (01495 353363) a Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd (01633 211376) yn cadw'r rhain
  • Chwiliwch y rhyngrwyd i ddod o hyd i wefannau hanes teuluol
  • Gwnewch gais am dystysgrifau o'r Swyddfa Gofrestru 

Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau yn Ardal Torfaen

Dechreuodd Cofrestru Sifil yng Nghymru a Lloegr ar 1 Gorffennaf 1837.

Mae Swyddfa Gofrestru Torfaen yn cadw cofnodion o'r genedigaethau, marwolaethau a phriodasau a fu yn ei hardal o'r dyddiad hwnnw hyd heddiw.

Mae Ardal Gofrestru Torfaen yn cynnwys Bwrdeistref Sirol gyfan Torfaen. Mae'n cynnwys Blaenafon, Pont-y-pŵl, Cwmbrân a Phonthir (hyd at y ffin gyda Chasnewydd).

Daeth Ardal Gofrestru Torfaen i fodolaeth yn sgîl ad-drefnu Llywodraeth Leol ym 1996. Cyn hynny, yr enw arni oedd Ardal Pont-y-pŵl o dan Sir Gwent a chyn hynny, Sir Fynwy.

Cyn Torfaen, roedd ffiniau Ardal Pont-y-pŵl wedi newid sawl gwaith ers 1837 ac maent wedi cynnwys y Fenni, Mynwy a Llanhiledd ar adegau amrywiol.

Mae'r Fenni a Thredegar hefyd yn cadw rhywfaint o gofnodion ar gyfer Pont-y-pŵl.

Rydym hefyd yn cadw rhywfaint o gofnodion Casnewydd ar gyfer is-ardal Llantarnam.

Mae hyd yn oed rhai cofnodion Pont-y-pŵl ar gyfer Crymlyn yn cael eu cadw yn ardal Caerffili.

Cofnodion a gedwir gan Ardal Gofrestru Torfaen

Mae'r cofrestri sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd gan Ardal Gofrestru Torfaen wedi'u rhestru isod.

Blaenafon - 1837-1939 Mawrth (gan gynnwys Gofilon)

Pont-y-pŵl - 1837-1939 (Farteg, Pont-y-pŵl, Panteg, Llantarnam) 

Panteg - 1925-1939 (mae'n cynnwys Griffithstown i Gwmbrân, Llanfrechfa a Llandegfedd) 

Pont-y-pŵl Rhif 2 - 1959-1974 (Pont-y-pŵl ac Ysbytai'r Sir) 

Pont-y-pŵl - 1959 hyd heddiw (mae'n cynnwys Blaenafon, Pont-y-pŵl, Cwmbrân a'r rhan fwyaf o Bonthir)

Cofnodion Ardaloedd Cofrestru Eraill a gedwir gan Torfaen

Casnewydd (is-ardal Llantarnam)
1896-1939 (Malpas a Chwmbrân)

Y Fenni (is-ardal Blaenafon)
1874 (Ebrill) – 1939

Cofnodion Is-ardaloedd Pont-y-pŵl a gedwir mewn Swyddfeydd Eraill

Y Fenni gan gynnwys Brynbuga (yn Ysbyty Sir Fynwy)
1837-1969 (mae'n cynnwys Swyddfa Gofrestru Mamolaeth Cefn Ila)
1837-1924 (mae'n cynnwys is-ardal Llangibby, Griffithstown, Cwmbrân, Llandegfedd)
Y Fenni 1974-1996

Tredegar (yn Swyddfa Gofrestru Blaenau Gwent)
Llanhiledd 1902-1939
(Priodasau 1837-1911)

Ystrad Mynach (yn Swyddfa Gofrestru Caerffili)
Crymlyn – Eglwys y Santes Fair
(Priodasau 1904-1931)

Sylwch, rhoddir y wybodaeth hon er arweiniad yn unig a cheir anghysondebau lle y mae rhai cofnodion, yn enwedig yn ymwneud â phriodasau, yn cael eu cadw ym Mhont-y-pŵl ac nid yn y Fenni, ac i'r gwrthwyneb. Mae ffiniau plwyfi a ffiniau llywodraeth leol wedi newid o bryd i'w gilydd dros y blynyddoedd.

Gwefannau Defnyddiol

Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol - Ar gyfer archebu Tystysgrifau Geni, Priodas a Marwolaeth ar-lein a lawrlwytho ffurflenni cais.

www.findmypast.co.uk - Ar y safle hwn, cewch gopi cyfan o'r mynegeion Genedigaethau, Priodasau a Marwolaeth ar gyfer Cymru a Lloegr o 1837 i 2001. Mae modd chwilio'r delweddau hyn ond codir tâl am wneud hynny. Bydd y safle hwn yn fwyaf defnyddiol i gwsmeriaid sydd eisoes yn gyfarwydd â'r mynegeion hyn ac sy'n dymuno cael cyfle i'w chwilio yn eu hamser eu hunain, heb orfod mynd i Lyfrgell neu Swyddfa Gofrestru. Caiff y safle ei gynnal gan Family Research Link yn Llundain.

Rootsweb - Mae 'FreeBMD' yn brosiect parhaus a'i nod yw trawsgrifio'r mynegai Cofrestru Sifil o Enedigaethau, Priodasau a Marwolaethau ar gyfer Cymru a Lloegr. 

Family Search - Dyma wefan Eglwys y Mormoniaid, sydd â dolenni i'w holl gronfeydd data, gan gynnwys Cyfrifiad Prydain 1881 a'r Mynegai Achyddol Rhyngwladol o Fedyddiadau a Phriodasau. 

Yr Archifau Gwladol - Dyma wefan yr Archifau Gwladol (y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus gynt) ac mae ganddi ddolenni i'w casgliadau yn y Ganolfan Cofnodion Teuluol a Kew (gan gynnwys catalog ar-lein manwl iawn).

Cyfrifiad 1901 - Dyma safle Cyfrifiad 1901 ar-lein.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/06/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestrwyr

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig