Seremonïau Dinasyddiaeth

O dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002, mae'n rhaid i unrhyw un dros 18 oed sy'n gwneud cais llwyddiannus i ddod yn ddinesydd Prydeinig gymryd rhan mewn seremoni dinasyddiaeth.

Nod y Seremoni Dinasyddiaeth yw galluogi ymgeiswyr i gwblhau'r broses gyfreithiol a'u helpu i ennill dealltwriaeth lawn o'r hawliau a'r cyfrifoldebau a ddaw gyda dinasyddiaeth Brydeinig. Dylai'r seremoni hefyd sicrhau eu bod yn cael eu croesawu'n briodol i'r gymuned. 

Bwriad y seremoni yw sicrhau nad proses fiwrocrataidd yn unig yw sicrhau dinasyddiaeth. 

Pan fydd yr ymgeisydd wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref ei fod wedi llwyddo, dylai gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru fel y gellir gwneud trefniadau ar gyfer y seremoni. Dylai'r seremoni ddigwydd o fewn tri mis o'r hysbysiad.

Seremonïau Dinasyddiaeth yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Ddinesig bob 8 wythnos. Bydd y seremoni'n dechrau gyda gair o groeso, yna bydd yr ymgeiswyr yn datgan neu'n tyngu llw teyrngarwch i Ei Mawrhydi y Frenhines ac yn addo'u teyrngarwch i'r Deyrnas Unedig, cyn cael eu tystysgrifau dinasyddiaeth. Bydd y weithred o gyflwyno'r dystysgrif, gan Faer Bwrdeistref Sirol Torfaen fel arfer, yn dangos bod Dinasyddiaeth Brydeinig yn cael ei rhoi yn ffurfiol. Yn dilyn y seremoni, byddwch yn gallu cael lluniaeth a chwrdd â dinasyddion newydd eraill.

Seremonïau dinasyddiaeth unigol

Os nad ydych yn gallu mynychu'r seremoni grŵp trefnedig nesaf, neu os hoffech gael eich Seremoni Ddinasyddiaeth personol eich hun, gellir trefnu hyn am ffi ychwanegol. Gweler Ffioedd Cofrestru ar gyfer prisiau cyfredol.

Dylai unrhyw un sy'n holi am Seremonïau Dinasyddiaeth gysylltu â'r Cofrestrydd Arolygol yn Swyddfa Pont-y-pŵl, rhif ffôn 01495 742132.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig