Mynegai Plant MALIC 2011

Gwybodaeth ar ardaloedd lleol gan MALlC 2011 Mynegai Plant 

Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru (MALIC) 2011: Mynegai Plant yw'r mesur amddifadedd cymharol swyddogol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru swyddogol ar gyfer plant, ac fe'i cyhoeddwyd gan Gyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r prif MALlC ar 31 Awst 2011.  

Mae'r dangosyddion a gynhwysir yn y Mynegai Plant yn canolbwyntio ar y boblogaeth plant a'r mathau o amddifadedd y gellid ei ddisgwyl i effeithio ar blant. Mae'r Mynegai Plant yn cynnwys saith 'maes' gwahanol o amddifadedd, wedi eu pwysoli fel y dangosir:

  • Incwm (35.3% o’r Mynegai Plant cyffredinol)
  • Iechyd (17.1%)
  • Addysg, sgiliau a hyfforddiant (17.1%)
  • Mynediad daearyddol i wasanaethau (12.2%)
  • Tai (6.1%)
  • Awyrgylch ffisegol (6.1%)
  • Diogelwch cymunedol (6.1%)

Noder: yn wahanol i'r prif MALlC , nid yw parth Cyflogaeth yn cael ei gynnwys yn y Mynegai Plant.

Hefyd wedi ei gynnwys ar y dudalen hon mae tabl cryno wedi rancio o'r Mynegai Plant 2011 ar gyfer 60 o Ardaloedd Gynnyrch Ehangach Haen Is Torfaen (mewn termau cyffredinol ac ar gyfer y parthau o fewn y Mynegai Plant ), a ranciau llawn yr Ardaloedd Gynnyrch Ehangach Haen Is yng Nghymru.

Canllawiau ar sut i ddefnyddio mynegai plant a'r Mynegai Plant 2011 - Dogfennau technegol ar gael i'w lawrlwytho

Diwygiwyd Diwethaf: 22/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Ymchwil
Ffôn: 01495 766259
E-bost: research@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig