Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019: Proffiliau ACEHI

Gwybodaeth leol o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019

Cafodd Mynegai diweddaraf Amddifadedd Lluosog eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ar 27 Tachwedd 2019. Mae'r Mynegai, sydd wedi cael ei ddatblygu i gefnogi targedu leol effeithiol o ran adnoddau a pholisi, yn darparu'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae MALIC 2019 yn diweddaru'r Mynegai a gyhoeddwyd yn 2014. Fel o'r blaen, mae’r MALlC yn cynnwys wyth parth (neu fath) o amddifadedd: Incwm; Cyflogaeth; Iechyd; Addysg; Mynediad at Wasanaethau; Diogelwch Cymunedol; Amgylchedd Ffisegol a Thai. Mae pob parth yn cael ei lunio o ystod o wahanol ddangosyddion.

Mae Mynegai 2019 yn defnyddio daearyddiaeth Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel ei uned adrodd, sy’n is- rhannu Cymru i 1,909 ardal ddaearyddol gwahanol gyda phoblogaeth gyfartalog o 1,600. Mae 60 o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is hyn yn Nhorfaen, pob un ohonynt ar hyn o bryd o fewn 24 adran neu ward etholiadol Torfaen.

Yn MALlC 2019, mae'r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn Nhorfaen canlynol yn y 10 y cant mwyaf difreintiedig yng Nghymru:

Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is Torfaen (Safle Cymru , 1-191)

  • Tefddyn 1
  • Cwmbrân Uchaf 1
  • Pontnewydd 1

Rydym wedi paratoi cyfres o broffiliau ardaloedd lleol MALlC 2019 sy’n cynnwys manylion ranciau ACEHI ym mhob un o Adrannau Etholiadol Torfaen ar gyfer y Mynegai lluosog a fesul maes unigol (ac felly yn adlewyrchu mathau penodol o amddifadedd).

Mae canlyniadau'r MALlC 2014 (ac yn gynharach) ar gael ar gais. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi na ddylai'r safleoedd amddifadedd o'r Mynegai 2019 gael eu cymharu yn uniongyrchol â'r rheiny o fynegeion blaenorol, o ganlyniad i resymau methodolegol gan gynnwys newidiadau yn y meysydd Mynegai a’r dangosyddion dros amser.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth neu ddata ychwanegol o'r Mynegai Amddifadedd, cysylltwch â'r Tîm Ymchwil.

Ceir canllawiau ar sut i ddefnyddio'r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yma. 

Diwygiwyd Diwethaf: 23/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Ymchwil

Ffôn: 01495 766259

Ebost: research@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig