Etholiad y Senedd 2026
Cynhelir etholiad Senedd Cymru ddydd Iau 7 Mai 2026.
Gall pobl dros 16 oed bleidleisio ond mae'n rhaid iddynt fod wedi cofrestru.
Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio o'r blaen, rhaid i chi gofrestru cyn dydd Llun Ebrill 20.
Cofrestru i bleidleisio
Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cofrestru, edrychwch ar y Llythyr Hysbysiad i Aelwydydd y byddwch yn ei dderbyn ym mis Mawrth, neu cysylltwch ar voting@torfaen.gov.uk
Newidiadau i'r Senedd
O fis Mai 2026, bydd nifer etholaethau'r Senedd yn gostwng o 40 i 16, ond bydd chwe Aelod yn cynrychioli pob un. Bydd cyfanswm nifer yr Aelodau yn cynyddu o 60 i 96.
Bydd etholaethau Torfaen a Sir Fynwy yn creu etholaeth Senedd Syr Fynwy Torfaen.
Bydd y ffordd y bydd pobl yn pleidleisio hefyd yn newid.
Bydd gennych un bleidlais a phapur pleidleisio, yn hytrach na dau bapur pleidleisio ar wahân.
Byddwch yn pleidleisio dros y blaid wleidyddol neu'r ymgeisydd annibynnol rydych chi am iddo/iddi eich cynrychioli, yn hytrach na phobl unigol.
Bydd y papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, fel y gallwch weld i bwy rydych chi'n pleidleisio.
Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, byddant yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os yw ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, byddant yn ennill sedd yn y Senedd.
Bydd seddi yn adlewyrchu canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennill.
Gelwir y system bleidleisio newydd yn system a gyfrannol â rhestrau caeedig.
Sut i bleidleisio
Gallwch bleidleisio drwy'r post, drwy ddirprwy neu wyneb yn wyneb.
I gofrestru ar gyfer cais am bleidlais drwy’r post, cysylltwch â'n tîm etholiadau drwy anfon e-bost i voting@torfaen.gov.uk neu ffonio 01495 762200 a gofyn am ffurflen gais. Rhaid i chi ddychwelyd eich ffurflen gais erbyn 5pm, ddydd Mawrth 21 Ebrill 2026.
Sylwer, bydd angen i chi ail-ymgeisio bob tair blynedd am bleidlais drwy’r post ar gyfer etholiadau seneddol ac adnewyddu bob pum mlynedd ar gyfer etholiadau Cymreig.
I drefnu i rywun bleidleisio ar eich rhan – gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy – gwnewch gais ar-lein ar www.gov.uk/apply-proxy-vote erbyn 5pm, ddydd Mawrth 28 Ebrill 2026.
Os byddwch chi'n pleidleisio wyneb yn wyneb, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio a fydd yn nodi i ba orsaf bleidleisio y bydd angen i chi fynd. Dim ond yn yr orsaf hon y byddwch yn gallu pleidleisio. Nid oes angen eich cerdyn pleidleisio arnoch i bleidleisio.
Nid oes angen i chi ddangos ID â llun i bleidleisio yn etholiad y Senedd.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/02/2026
Nôl i’r Brig