Yr Ombwdsmon

Os ydych yn anfodlon â chanlyniad eich cwyn o hyd ar ôl cwblhau unrhyw rai o'r camau, mae gennych yr hawl i gysylltu â'r Ombwdsmon Lleol a all benderfynu cynnal archwiliad annibynnol ar eich rhan. Byddai'r Ombwdsmon yn disgwyl i chi fod wedi dilyn proses gwyno Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen cyn i chi gysylltu, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Mae'r Ombwdsmon Lleol yn annibynnol ar y cyngor ac yn ymdrin â chwynion yn erbyn awdurdodau lleol.

Mae copi o daflen yr Ombwdsmon, ' Eich Ombwdsmon Lleol yng Nghymru’ ar gael yn y Ganolfan Ddinesig neu drwy gysylltu'n uniongyrchol â'u swyddfeydd ar 01656 641150, ond rydym yn gobeithio y byddwch yn rhoi cyfle i ni ddatrys eich cwyn yn gyntaf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cwynion Corfforaethol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: corporatecomplaints@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig