Hawliadau Yswiriant

Mewn materion lle rydych yn ystyried bod gennych hawl i iawndal mewn perthynas ag unrhyw gamwedd a wnaed gan yr Awdurdod, dylid eu cyflwyno fel cais i'r Adain Yswiriant o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Nid yw'r broses gwynion corfforaethol yn gallu ymdrin â materion o natur ymgyfreitha sifil (hawlio).

Wrth ystyried gwneud cais, nodwch os oes gennych unrhyw bolisïau yswiriant priodol ar waith, bydd yn amod o'r polisi eich bod yn rhoi gwybod i'r yswiriwr ar unwaith am unrhyw golled. Gallai unrhyw oedi cyn hysbysu annilysu eich polisi efallai y bydd angen i chi ddibynnu arno mewn achos o atebolrwydd nad yw'n cael ei dderbyn gan yr Awdurdod ag ef. Mae hefyd yn gyfrifoldeb arnoch i liniaru eich colled, mae hyn yn golygu mae gofyn i chi gadw cost unrhyw gais i isafswm.

NI FYDD yr Awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd cais yn cael ei wrthod gan eich yswirwyr eich hun oherwydd methiant o'ch tu chi i gydymffurfio ag unrhyw rai o amodau eich polisi yswiriant.

Mewn achosion pan fyddwch yn ystyried mai esgeulustod yr Awdurdod sydd wedi achosi difrod i'ch adeilad (fel lori sbwriel yn taro a difrodi wal eich garej), yna, rhowch wybod am y mater i yswiriwr eich adeilad a rhoi ein manylion cyswllt iddo. Yn yr un modd, mewn achosion sy'n cynnwys unrhyw ddifrod i'ch cerbyd, rhowch wybod i yswiriwr eic modur a rhoi ein manylion cyswllt iddo. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn bodloni  rhwymedigaethau eich cytundeb yswiriant eich hun ac eich helpu i liniaru eich colled. Yn ei dro, bydd eich yswirwyr wedyn yn cyflwyno eich cais yn erbyn yr Awdurdod. Lle ceir mai'r Awdurdod fuodd yn esgeulus a bod eich yswiriwr wedi hynny yn derbyn ad-daliad llawn, ni ddylai hyn effeithio ar y gostyngiad yr ydych yn ei dderbyn am beidio hawlio.

Sylwer: Yn ystod y gwaith o brosesu unrhyw hawliad, efallai y bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chyflwyno i yswirwyr, cwmnïau sy'n trin hawliadau a chyfreithwyr y gellir eu penodi er mwyn ymdrin â'r hawliad yn unol â gweithdrefnau ymgyfreitha sifil cyfredol. 

Mae'n ddyletswydd ar yr awdurdod i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac i'r perwyl hwn gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i darparu ar gyfer atal a chanfod twyll. Gall hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Yr Awdurdod Atall Twyll Cenedlaethol.

Os canfyddir bod hawlwyr yn darparu gwybodaeth ffug neu'n mynd ar drywydd hawliadau twyllodrus byddant yn agored i erlyniad.

Rydym yn gallu setlo hawliadau lle byddai'r Awdurdod yn atebol yn gyfreithiol, a hynny'n unig. O dan ein dyletswydd i amddiffyn Cyllid Cyhoeddus ni allwn gynnig iawndal ar sail ewyllys da. Os, yn anffodus ar ddiwedd y mater, yr ydych yn anghytuno â'r safbwynt terfynol a gymerwyd, byddem yn awgrymu eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

Sut i hawlio

Lawr lwythwch a llenwch Ffurflen Hawlio Yswiriant a'i dychwelyd naill ai drwy:

  • E-bost: insurance@torfaen.gov.uk
  • Post: Adran Yswiriant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Neu, fel arall, cysylltwch â'r adran Yswiriant ar 01495 766118 a gofyn iddynt anfon ffurflen hawlio atoch.

Rydym ar gael o 8.30am hyd at 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 8.30am hyd at 4.30pm ar ddydd Gwener.

Nodyn i gynrychiolwyr y gyfraith

I gyflwyno Hawliadau Atebolrwydd Cyhoeddus, trwy Borth Hawliadau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, dylech ddefnyddio ein cyfeirnod: G00286 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

I gyflwyno achosion Atebolrwydd Cyflogwr a gododd cyn 1 Ebrill 2019 dylai'r mater fynd yn uniongyrchol at Zurich Municipal gan ddefnyddio eu cyfeirnod C00108. Dylai unrhyw faterion a gododd ar 1 Ebrill 2019 neu ers hynny fynd yn uniongyrchol at Gallagher Bassett gan ddefnyddio'u cyfeirnod D00019

Diwygiwyd Diwethaf: 19/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adran Yswiriant

Ffôn: 01495 766118

E-bost: insurance@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig