Gweithdrefn Gwyno Ysgolion

Mae rheoliadau a gyflwynwyd dan Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion meithrin, sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion gan rieni, disgyblion, aelodau staff, llywodraethwyr, aelodau'r gymuned leol a phobl eraill.

Cwynion sy'n Gysylltiedig ag Ysgolion

  • Os oes gennych gwyn yn ymwneud ag ysgol mae angen i chi gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol fel bod ganddi gyfle i ddatrys y mater.
  • Gyda'r ysgol a'r corff llywodraethu y mae'r cyfrifoldeb statudol i ymateb i gwynion yn ymwneud ag ysgol.
  • Mae gan bob ysgol yn Nhorfaen bolisi cwyno sy'n cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru; mae iddo dri cham ac mae ar gael gan yr ysgol ar gais
  • Disgwylir bod y rhan fwyaf o gwynion yn cael eu trin ar Gam A neu B.
  • Mae Cam C yn dwyn y gwyn at sylw pwyllgor cwynion y corff llywodraethu. Dyma'r modd terfynol o godi cwynion sy'n ymwneud â'r ysgol
  • Ym mhob achos bydd yr ysgol a'r corff llywodraethol yn sicrhau yr eir i'r afael â chwynion mewn ffordd ddiduedd, agored a theg.
  • Rhoddir ystyriaeth o ddifri i bryderon a chwynion a lle gwnaed camgymeriadau, bydd gwersi i'w dysgu ohonynt.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru, Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr
Ffôn: 01443 864963 or 01443 863155
E-bost: business.support@sewaleseas.org.uk
Ewch i: https://sewaleseas.org.uk

Cwynion ynghylch y Gwasanaeth Addysg

Os ydych yn cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg am wasanaeth am y tro cyntaf, (ee gofyn am apwyntiad ac ati) yna nid yw'r polisi cwyno yn berthnasol. Dylech yn gyntaf roi cyfle i ni ymateb i'ch cais. Os byddwch yn gwneud cais am wasanaeth Addysg ac nid ydych yn fodlon â'r ymateb a gawsoch gennym, fe allwch ddatgan eich pryder drwy'r broses gwyno. Mae dau gam, cam un yw ddatrysiad anffurfiol o fewn 10 diwrnod gwaith a cham 2 yw ymchwiliad ffurfiol o fewn 20 diwrnod gwaith. Os ydych dal i fod yn anfodlon, fe allwch ddwyn eich cwyn at sylw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae gan yr Awdurdod dîm cwynion y gallwch gysylltu â hwy ynghylch manylion eich cwyn. Os yw'n well gennych, gallwch rhoi gwybod am eich pryderon neu gwynion yma neu lawr lwytho ffurflen gwyno.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/05/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cwynion Corfforaethol

Ffôn: 01495 742164

E-bost: corporatecomplaints@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig