Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Mae’r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) yn ardoll newydd y gall awdurdodau lleol ddewis ei chodi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at y seilwaith sydd ei angen i gefnogi twf yn y Cynllun Datblygu Lleol, megis ysgolion a gwelliannau i gludiant. Mae Rhestr Codi Tâl ASC ddrafft yn nodi’r cyfraddau y mae’r cyngor yn bwriadu eu codi mewn ardaloedd penodol yn y fwrdeistref a pha fathau o ddatblygiad newydd y bydd disgwyl arnynt i dalu. Defnyddir yr arian a godir trwy ASC i ariannu seilwaith angenrheidiol. Mae’n ofyniad ein bod yn paratoi a chyhoeddi rhestr o’r holl seilwaith sy’n gymwys i dderbyn arian ASC. Nodir hyn yn Rhestr Ddrafft Seilwaith 123 sydd wedi ei chynnwys yn y ddogfen Rhestr Codi Tâl ddrafft.
Diweddariad Rhagfyr 2022 - Roedd Atodlen Codi Tâl Ddrafft ASC Torfaen yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 11 Rhagfyr 2017 - 29 Ionawr 2018. Fodd bynnag, mae'r Cyngor bellach wedi dechrau paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) i Dorfaen a bydd yn ailasesu hyfywedd y datblygu fel rhan o'r gwaith hwnnw yn ystod y 2023. Yn seiliedig ar gasgliadau'r gwaith hwn, bydd y Cyngor yn penderfynu a fydd yn parhau i fynd ar drywydd cyflwyno ASC, pan fydd yn ystyried cynnwys y CDLlN ar Adnau, a ddisgwylir ym mis Mehefin 2024.
Beth yw ASC?
Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (neu'r "ardoll' neu 'ASC') yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol godi arian gan ddatblygwyr sy'n ymgymryd â phrosiectau adeiladu newydd yn eu hardal. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at y seilwaith sydd ei angen i gynorthwyo twf, fel ysgolion a gwelliannau i gludiant. Mae ASC yn cael ei chymhwyso fel tâl ar bob metr sgwâr o arwynebedd llawr newydd sy'n cael ei greu gan y datblygiad, a nodir cyfraddau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygu, yn ôl pa mor ymarferol yw pob math o ddatblygiad. Gellir defnyddio'r arian sy'n deillio o'r ASC i ariannu ystod eang o seilwaith sydd ei angen i gynorthwyo twf yn yr ardal.
Mae pob awdurdod lleol yn paratoi Rhestr Codi Tâl sy'n nodi lefel yr ASC a fydd yn cael ei chymhwyso i bob math o ddatblygiad trethadwy. Ar ôl ei chyflwyno, mae'r ASC yn orfodol ac fe'i codir yn erbyn pob datblygiad newydd sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso. Mae'n rhaid i'r ASC fod yn 'fforddiadwy' yn gyffredinol ar gyfer datblygwyr ac ni ddylid ei gweld yn bygwth hyfywedd datblygiad cyffredinol mewn ardal benodol. Rhaid i Restr Codi Tâl yr ASC fod ar sail dystiolaeth briodol. Cynhaliwyd astudiaethau hyfywedd cynhwysfawr sy'n nodi tystiolaeth fanwl ar hyfywedd datblygiad ar draws ystod o safleoedd a defnyddiau yn Nhorfaen.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi Canllawiau i greu Ardoll Seilwaith Cymunedol. Cyhoeddir y ddogfen hon ar ffurf cwestiwn ac ateb a bydd yn cynnwys mwyafrif yr ymholiadau sydd genych ynglŷn ag ASC.
Cyfnodau Allweddol ar gyfer Mabwysiadu Rhestr Codi Tâl ASC:
Tabl gwybodaeth yn dangos camau’r Paratoadau ar gyfer yr ASC
Cam ym Mharatoadau’r ASC | Amserlen Fras |
Ymgynghoriad ar Ddrafft o’r Rhestr Codi Tâl a Drafft o Rhestr Seilwaith Rheoliad 123
|
Cwblhawyd
|
Drafft o’r Rhestr Codi Tâl a Drafft o Rhestr Seilwaith Rheoliad 123
|
Rhag 2017 - Ion 2018
|
Cyflwyno ar gyfer Archwiliad
|
ic
|
Archwilio
|
ic
|
Adroddiad ASC yr Archwiliwr
|
ic
|
Cymeradwyo a Chyhoeddi’r Rhestr Codi Tâl
|
ic
|
Gweithredu’r Tâl ASC
|
ic
|
Adroddiad Monitro Blynyddol
|
ic
|
Diwygiwyd Diwethaf: 05/01/2023
Nôl i’r Brig