Canllawiau Cynllunio Atodol

Beth yw Canllawiau Cynllunio Atodol

Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn ddogfennau a gynhyrchir gan y Cyngor i roi arweiniad i'r cyhoedd, ymgeiswyr a datblygwyr wrth wneud ceisiadau cynllunio. Mae'r CCA yn darparu gwybodaeth atodol mewn perthynas â'r polisïau yn y Cynllun Datblygu lleol. Mae'n fodd o gynnig canllawiau thematig neu fanylach o ran sut y bydd y polisïau hyn yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol. Mae CCA yn un o'r 'ystyriaethau materol' y rhoddir ystyriaeth iddynt wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Gall y CCA fod ar ffurf y canlynol:

  • Canllawiau penodol ynghylch bioamrywiaeth neu ddyluniad blaen siop 
  • Canllawiau'n ymwneud â safleoedd penodol, fel fframweithiau datblygu neu briffiau datblygu; a
  • Chanllawiau neu drothwyon rhifiadol a allai newid yn ystod oes y cynllun, fel safonau meysydd parcio, er mwyn osgoi i'r cynllun cyfredol fynd yn hen yn rhy gyflym. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys y meysydd hynny lle y mae'r targedau hyn yn bolisi allweddol, fel targedau ar gyfer darpariaeth tai yn y dyfodol

Ymgyhoriad Cyhoeddus 2 Mawrth 2023 tan 13 Ebrill 2023

Mae’r Cyngor nawr yn ymgynghori ar y ddogfen drafft Canllawiau Cynllunio Atodol Lleoliadau Cynaliadwy.

Ers mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Torfaen yn 2013, mae polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol wedi cael eu diweddaru'n sylweddol gyda ffocws allweddol ar gynaliadwyedd. Mae'r dull hwn yn ymgorffori gofynion Deddf Teithio Llesol 2013 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ogystal ag ymateb i'r argyfwng hinsawdd sydd wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen. Elfen sylfaenol o gynaliadwyedd mewn perthynas â chynigion datblygu yw lleoliad gyda pholisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol yn cynyddu'r pwyslais ar leihau pellteroedd teithio a chael gwared ar ddibyniaeth ar deithiau car preifat.

Er bod Polisi S2 (Datblygu Cynaliadwy) CDLl Torfaen yn croesawu'r nod hwn, mae'r Cyngor wedi cydnabod na allai pob ardal ddaearyddol yn ein haneddiadau presennol alluogi preswylwyr i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol heb ddefnyddio car. Mae penderfyniadau cynllunio diweddar y Cyngor wedi codi'r bar yn hyn o beth, gyda'r rhagdybiaeth o blaid datblygu o fewn ffiniau aneddiadau yn cael ei ddisodli lle bo hynny'n berthnasol o blaid ystyriaethau cynaliadwyedd. Mae'r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) hon felly'n nodi dull y Cyngor o asesu p’un a yw safle datblygu arfaethedig mewn 'lleoliad cynaliadwy' a all gyfrannu'n gadarnhaol tuag at gynaliadwyedd cyffredinol cymunedau a mynd ar drywydd ffyrdd o fyw sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd yn Nhorfaen.

Diben yr ymgynghoriadau yw derbyn sylwadau ysgrifenedig ar y CCA drafft a gyhoeddwyd oddi wrth amrywiaeth eang o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a chwmnïau. Bydd pob ateb a dderbynnir yn cael ei gydnabod a’i asesu gan swyddogion mewn ‘Adroddiad ar Ymgynghoriad’ a fydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor cyn i’r CCA gael ei fabwysiadu; gan nodi bod y Cyngor wedi penderfynu eu defnyddio, yn y cyfamser, fel ‘ystyriaethau materol’ ar gyfer asesu ceisiadau cynllunio. Felly, nodwch os gwelwch yna dda, fel y bo’n briodol, bydd enw unigol pob un sy’n ateb, neu enw cwmni neu enwau asiant/cleient, ynghyd â’u sylwadau (naill ai’n llawn neu wedi eu crynhoi) yn cael eu cyhoeddi. Bydd manylion cyswllt yn cael eu cadw’n gyfrinachol yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd GDPR ar gyfer y CDLlN sydd ar gael i’w weld ar wefan y Cyngor.

Yn olaf, os nad ydych eisoes wedi gofyn am gael gwybod am ddiweddariadau ynglŷn â'r CDLlN ond yn dymuno gwneud hynny, a fyddech cystal â llenwi ffurflen Gronfa Ddata’r Ymgynghoriad CDLl, a’i dychwelyd atom; yna byddwn yn eich ychwanegu at 'gronfa ddata ymgynghori' y Cyngor. Yn yr un modd, os ydych am gael eich tynnu oddi ar 'gronfa ddata’r ymgynghoriad' ac nad ydych am gael gwybod am y CDLl Newydd neu’r dogfennau cysylltiedig, rhowch wybod i ni’n ysgrifenedig.

I gyflwyno eich sylwadau am y ddogfen, a fyddech cystal ag anfon e-bost i ldp@torfaen.gov.uk neu eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Tîm Polisi Cynllunio a Gweithredu, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 6YB.

Os oes angen cymorth pellach arnoch, os ydych am weld y ddogfen trwy apwyntiad yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, neu os ydych angen copïau papur (codir tâl), cysylltwch â'r tîm polisi cynllunio ar 01633 648039, drwy yrru e-bost i ldp@torfaen.gov.uk neu fe allwch ysgrifennu atom yn y cyfeiriad uchod. Mae copïau o’r CCA ar gael i’w gweld yn llyfrgelloedd y fwrdeistref sirol - Blaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich sylwadau erbyn 5pm ar 13 Ebrill 2023.

CCA Dylunio Safle, Uwchgynllunio a Datblygu Briff

Mae'r SPG Dylunio Safle, Uwchgynllunio a Briff Datblygu (Chwefror 2023) bellach wedi cael ei fabwysiadu gan y Cyngor ac mae'n ffurfio ystyriaeth berthnasol wrth wneud penderfyniadau'r Cyngor. O ystyried bod hon yn ddogfen fwy technegol, rydym hefyd wedi llunio Crynodeb o’r CCA er gwybodaeth i chi.

Mae creu lleoedd, a'r angen am ddylunio o ansawdd uchel yn sylfaenol i ddull y cyngor o ddatblygu safleoedd yn Nhorfaen. Mae dau brif bwrpas i’r CCA hwn. Yn gyntaf, cafodd ei lunio i gefnogi ac ychwanegu manylion at y polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol (Rhagfyr 2013) a fabwysiadwyd ar gyfer Torfaen, ac yn ail, i lywio proses Cynllun Datblygu Lleol Newydd i Dorfaen. Mae'r CCA hwn yn darparu arweiniad pendant ar ffurf a chynnwys Uwch Gynlluniau a Briffiau Datblygu, a bydd yn sicrhau bod dull safonol yn cael ei fabwysiadu.

Dylai darpar ymgeiswyr, asiantau, penseiri, aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn cais, aelodau etholedig o'r Cyngor a chyrff eraill fynd ati i’w ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau, ond mae'n hynod berthnasol i ddatblygwyr sy'n ystyried cyflwyno cais cynllunio am ddatblygiad mawr (10+ o anheddau neu 1,000 m2+ arwynebedd llawr masnachol) ar hap-safleoedd (heb eu dyrannu) neu safleoedd a ddyrannwyd eisoes; ac i dirfeddianwyr / y sawl sy’n cynnig safle, wrth baratoi Briffiau Datblygu ar gyfer safle.

Cost am gopi caled: £5.85 (gan gynnwys postio a phecynnu)

CCA Diwygiedig y Rhwymedigaethau Cynllunio (Rhagfyr 2023)

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r CCA Rhwymedigaethau Cynllunio bellach wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor ac mae ar gael isod. Rydym hefyd wedi cynhyrchu Crynodeb o'r SPG er gwybodaeth.

Yn anochel, mae datblygiadau newydd yn cael effaith ar y gymuned a'r ardal gyfagos. Nod y system gynllunio yw mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau negyddol a, lle y bo'n bosibl, cyflwyno buddion cymunedol a/neu amgylcheddol drwy rwymedigaethau cynllunio. Mae'r Cyngor wedi llunio Canllawiau Cynllunio Atodol i esbonio sut caiff rhwymedigaethau cynllunio eu defnyddio ac mae'n cyflwyno ei ddisgwyliadau o ddatblygiadau newydd. Mae'r diwygiad hwn i'r CCA Rhwymedigaethau Cynllunio wedi'i ysgogi i raddau helaeth gan newid Llywodraeth Cymru yn yr ymagwedd at ffigurau Canllawiau Cost Derbyniol nad yw, o fis Ebrill 2022, yn cynnwys gwerth tir. Felly mae newidiadau i Atodiad 1 yn cynnwys system ar sail 'tariff' newydd ar gyfer eiddo rent cymdeithasol fforddiadwy. Yn ogystal, bydd yn ofynnol nawr i dai fforddiadwy gyfrannu tuag at unrhyw daliadau cynnal a chadw safle parhaus; ac mae proses newydd wedi'i chyflwyno sydd o bosibl yn caniatáu i RSL ddefnyddio Grant Tai Cymdeithasol LlC i gyfrif tuag at y canran tai fforddiadwy ar safle. Cymerwyd y cyfle i ddiweddaru nifer o elfennau eraill o'r CCA gan gynnwys cyfeirio at y Model Hyfywedd Datblygu fel y dull a ffefrir gan y Cyngor o asesu hyfywedd datblygu; eglurhad o ddull y Cyngor o gyfrifo capasiti ysgolion sydd ar gael a newidiadau i ofynion ardal fesul disgybl a diffiniadau costau. Mae'r CCA hefyd wedi bod yn destun mân welliannau geiriad a newidiadau i adlewyrchu'r pwyslais polisi / canllawiau cenedlaethol cynyddol ar leihau'r angen i deithio, dulliau teithio llesol, gwneud lleoedd a gwydnwch ecolegol yn ogystal â diweddariadau i gostau addysg a hamdden i adlewyrchu'r amgylchiadau presennol.

Mae'r CCA yn cyfeirio at ystod eang o faterion a allai fod yn destun rhwymedigaethau cynllunio. Ni fydd yr holl faterion hyn yn berthnasol i bob cais cynllunio. Bydd y Cyngor yn ystyried y materion sy'n berthnasol ar sail pob achos unigol, gan ystyried natur y cynnig datblygu, y safle a'r cyd-destun lleol. Nid yw'n disodli'r broses o drafod rhwymedigaethau cynllunio oherwydd caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei rinweddau unigol.

Mae CCA y Rhwymedigaethau Cynllunio yn ei gyfanrwydd (gan gynnwys atodiadau unigol) ar gael i'w lawrlwytho yn y fan hon. I hwyluso'r defnydd ohonynt, mae'r atodiadau unigol hefyd ar gael i'w lawrlwytho o'r dolenni isod:

Mae dogfennau pellach sydd ar gael i'w lawrlwytho mewn perthynas â CCA y Rhwymedigaethau Cynllunio fel a ganlyn:

Cost am gopi caled: £24.85 (gan gynnwys postio a phecynnu)

Tâl Gweinyddu a Monitro ar gyfer Cytundebau S106 / Safonau Lefel Gwasanaeth

Mae'r Cyngor ar 28 Mehefin 2011 wedi penderfynu cyflwyno system ffioedd ar wahân sy'n berthnasol i geisiadau cynllunio sy'n galw am brosesu a monitro cytundeb cyfreithiol Adran 106, a chyhoeddi ei Safonau Lefel Gwasanaeth cysylltiedig. Bydd y ffi a godir yn cyfrannu at yr adnoddau gweinyddol a phroffesiynol sy'n ofynnol yn yr Adran Gynllunio i ddarparu'r gwasanaeth cynllunio. Mae’r Tâl Gweinyddu a Monitro ar gyfer Cytundebau S106  a Safonau Lefel Gwasanaeth S106 ar gael i’w lawr lwytho.

Dogfennau CCA eraill a fabwysiadwyd

Mae dogfennau eraill a fabwysiadwyd fel Canllawiau Cynllunio Atodol gan y Cyngor ar gael i'w lawrlwytho isod a/neu eu prynu ar ffurf copi caled trwy gysylltu â'r tîm Blaengynllunio:

Dogfennau Eraill

Rhagor o Wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch CCA trwy gysylltu â'r tîm Blaengynllunio neu'r tîm Rheoli Datblygu yn Nhorfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Blaen Gynllunio

Ffôn: 01633 647620

E-bost: ldp@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig