Adroddiad Cynnydd Blynyddol Teithio Llesol 2021/22
Y camau a gymerwyd i hyrwyddo teithiau teithio llesol
- Cynhaliwyd rhaglen gyfathrebu eang iawn i hyrwyddo ymwybyddiaeth o deithio llesol yn Nhorfaen yn 2021-2022. Roedd y cyfathrebu hyn trwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb, ar-lein trwy gyfarfodydd Teams/Zoom, cyfryngau cymdeithasol, gwefan, e-bost, post uniongyrchol ac ati. Mae ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Torfaen wedi cael eu defnyddio sawl gwaith gan dargedu pob cynulleidfa. Fe wnaethom hefyd gynnal pwyntiau ymgysylltu canol trefi i siarad â phobl am bob agwedd ar deithio llesol a darparu gwybodaeth
- Roedd y rhaglen gyfathrebu'n ategu'r broses ymgynghori a mapio MRhTLl a gynhaliwyd dros sawl mis. Yn ystod hyn fe wnaethom gysylltu â 180 o sefydliadau/ysgolion/cyrff/grwpiau cyhoeddus, Landlordiaid Cymdeithasol ac eraill tebyg
- Cwblhawyd a chyflwynwyd ein MRhTLl i Lywodraeth Cymru
- Fe wnaethom ymgysylltu â holl ysgolion Torfaen, ar gyfer cynlluniau cenedlaethol Cerdded a Beicio i'r Ysgol a chynllun arbennig Teithio Llesol i'r Ysgol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Fe wnaethom gynnal arolygon teithio llesol mewn ysgolion a datblygu Cynlluniau Ysgolion Teithio Llesol newydd gyda sawl ysgol
- Gweithion ni gyda darparwyr eraill fel Gwasanaethau Chwarae Torfaen, gan gefnogi eu staff gwirfoddol ifanc i ddarparu gwasanaethau i blant iau
- Fe wnaethom ymgysylltu â phobl ifanc drwy Fforwm Ieuenctid Torfaen (16-25 oed) a mynychu digwyddiadau gyda phobl ifanc i gasglu barn ar Deithio Llesol
- Fe wnaethom ymgysylltu â nifer o grwpiau symudedd ac anabledd gan gynnwys grŵp Fforwm Mynediad Torfaen a Sight Cymru a gydag amryw o unigolion a ymatebodd i'r negeseuon cyfathrebu
- Roedd mwy o bwyslais ar deithio llesol mewn cyfathrebu â Chynghorwyr a thrigolion ar gynlluniau LlDmC a TLl sy'n cael eu datblygu a'u hadeiladu. Yn yr un modd, roedd mwy o bwyslais ar deithio llesol yn ymatebion Priffyrdd Torfaen i ymholiadau gan drigolion ac aelodau o'r cyhoedd
- Roedd pwyslais cryfach ar ddarpariaeth TLl wrth adolygu ceisiadau datblygu Priffyrdd newydd a cheisiadau cynllunio
- Fe wnaethom barhau i ddarparu hyfforddiant beicio Safonau Cenedlaethol a'r hyfforddiant hyfedredd beicio traddodiadol sy'n rhoi'r hyfforddiant angenrheidiol i feicwyr ifanc i fod yn feicwyr mwy diogel a mwy cymwys
- Fe wnaethom barhau gyda hyfforddiant i blant sy'n cerdded.
Y camau a gymerwyd i sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau a gwelliannau cysylltiedig
- Wedi bwrw ymlaen â'r cynllun LlDmC yn Ysgol Gynradd Llantarnam ac wedi adeiladu llwybr cerdded a beicio 205m o hyd a chynllunio'r rhan nesaf i'w hadeiladu ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
- Wedi gosod croesfan Toucan y tu allan i ysgol gynradd Woodlands a chroesfan Toucan arall ar y prif lwybr beicio wrth ymyl y gamlas ym Mhontnewydd.
- Cwblhawyd ail ran y gwaith o ledu'r llwybr byr i 3 ysgol gynradd leol a'r parc yn Sandybrook, Cwmbrân.
- Gwnaed gwelliannau i'r mynediad ar y llwybr teithio llesol a thuag ato trwy barc yng Nghae Derw, Cwmbrân.
- Dyluniwyd a gosodwyd nifer o welliannau i arwyddion llwybrau TLl.
- Gosodwyd mwy Gyrbiau Isel yn y rhaglen gwelliannau ar lwybr teithio llesol ar hyd prif ffordd ddosbarthu leol ym Mhontnewydd, Cwmbrân ac ar lwybr cerdded i'r ysgol yng Nghoed Efa, Cwmbrân.
- Mynychwyd ymgynghoriadau a digwyddiadau galw heibio i gasglu adborth ar welliannau a llwybrau LlDmC a TLl arfaethedig.
- Dechreuwyd prosiect newydd mawr gydag astudiaeth WelTAG i ystyried gwelliannau i'r seilwaith teithio llesol ar Cwmbrân Drive.
- Parhau â'r gwaith dylunio ar rwydwaith TLl Cae Derw, cam 2 Edlogan Way, lledu llwybr TLl Cwmbrân Drive a llwybr newydd i stadiwm Cwmbrân.
- Sawl astudiaeth ddichonoldeb arall wedi eu cynnal neu wedi eu symud ymlaen ar gyfer gwelliannau llwybrau teithio llesol.
- Cynhaliwyd archwiliadau teithio llesol o holl lwybrau presennol ac arfaethedig TLl yn Nhorfaen i asesu'r gwaith y mae angen ei wneud yn y dyfodol.
Costau a wariwyd ar gyfer llwybrau a chyfleusterau teithio llesol newydd a gwelliannau llwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig a wnaed yn y flwyddyn ariannol lawn flaenorol
Yn ogystal â'r uchod, mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi trosolwg o'r seilwaith sydd wedi'i gyflwyno yn ystod y flwyddyn flaenorol
Gwariant dangosol ar gyfer llwybrau a chyfleusterau teithio llesol newydd a gwelliannau llwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig a ariennir neu a ariennir yn rhannol gan drydydd partïon
Hyd y llwybrau newydd (cerdded, beicio, defnydd a rennir)
- Cerdded – 75 metr
- Beicio - 0
- Defnydd a Rennir – 290 metr
Hyd y llwybrau wedi'u gwella (cerdded, beicio, defnydd a rennir)
- Cerdded – 184 metr
- Beicio – 0
- Defnydd a Rennir – 0
Cyfleusterau teithio llesol newydd a gwell
- Gosod seddi (meinciau) ar gyfer gorffwys mewn sawl lleoliad ar hyd llwybrau teithio llesol
Diwygiwyd Diwethaf: 10/11/2025
Nôl i’r Brig