Adroddiad Cynnydd Blynyddol Teithio Llesol 2020/21

Y camau a gymerwyd i hyrwyddo teithiau teithio llesol

  • Creu a chymeradwyo swydd newydd ar gyfer swyddog Teithio Llesol i hyrwyddo teithio llesol a rheoli'r ymgynghoriadau TLl
  • Cwblhau asesiadau llwybrau teithio llesol wedi eu diweddaru ar lwybrau ERM ac INM i nodi gwelliannau sydd eu hangen
  • Pwyslais ar deithio llesol mewn cyfathrebiadau â Chynghorwyr a thrigolion ar gynlluniau LlDmC a TLl sy'n cael eu datblygu a'u hadeiladu
  • Pwyslais ar deithio llesol yn ymatebion Priffyrdd Torfaen i ymholiadau trigolion
  • Pwyslais cryfach ar ddarpariaeth TLl wrth adolygu ceisiadau datblygu newydd
  • Nodi, dylunio a gosod gwelliannau i arwyddion llwybr TLl
  • Parhau i ddarparu hyfforddiant beicio Safonau Cenedlaethol a'r hyfforddiant hyfedredd beicio traddodiadol sy'n rhoi'r hyfforddiant angenrheidiol i feicwyr ifanc i fod yn feicwyr mwy diogel a mwy cymwys
  • Cefnogi ysgolion yn gyffredinol gyda negeseuon cerdded a beicio i'r ysgol
  • Cefnogi ysgolion unigol gyda chyfathrebu i fynd i'r afael â phryderon am dagfeydd wrth glwydi ysgolion
  • Negeseuon aml yn annog cerdded a beicio yn ystod pandemig Covid-19 ar y cyd â chefnogi canllawiau diogelwch cerddwyr a beicwyr a chanllawiau pellter cymdeithasol

Y camau a gymerwyd i sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau a gwelliannau cysylltiedig

  • Cynlluniau gwella teithio llesol parhaol a dros dro newydd trwy gyllid Covid-19 arbennig.
  • Cyllid dyraniad Craidd TLl i:
    • Uwchraddio a lledu'r llwybr byr i 3 ysgol gynradd leol a'r Parc yn Sandybrook, Cwmbrân
    • Darn newydd o lwybr cerdded i'r ysgol i Ysgol Gyfun Abersychan.
    • Gwelliannau i ddiogelwch llwybrau cerdded i gerddwyr sy'n agored i niwed yng Nghroesyceiliog.
    • Gwelliannau Cyrbiau Isel ar y rhwydwaith sylfaenol ym Mhontnewydd, Cwmbrân er mwyn gwella mynediad i bawb i ganol y pentref.
    • Parhau â'r gwaith dylunio ar rwydwaith TLl Cae Derw, cam 2 Edlogan Way, llwybr stadiwm Cwmbrân, llwybr TLl yr A4042.
    • Cwblhau asesiad o fesuryddion monitro llwybrau TLl
  • Dechrau dylunio cynllun LlDmC Ysgol Gynradd Llantarnam ac adeiladu llwybr 'bwydo' sy'n cysylltu â phrif lwybr y cynllun.
  • Gwelliannau cerdded i'r seilwaith bysiau

Costau a wariwyd ar gyfer llwybrau a chyfleusterau teithio llesol newydd a gwelliannau llwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig a wnaed yn y flwyddyn ariannol lawn flaenorol

  • £1,423,900

Yn ogystal â'r uchod, mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi trosolwg o'r seilwaith sydd wedi'i gyflwyno yn ystod y flwyddyn flaenorol

Gwariant dangosol ar gyfer llwybrau a chyfleusterau teithio llesol newydd a gwelliannau llwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig a ariennir neu a ariennir yn rhannol gan drydydd partïon

  • £80,000

Hyd y llwybrau newydd (cerdded, beicio, defnydd a rennir)

  • Cerdded – 456 metr
  • Beicio - 0
  • Defnydd a Rennir – 0 

Hyd y llwybrau wedi'u gwella (cerdded, beicio, defnydd a rennir)

  • Cerdded – 4446 metr
  • Beicio – 0
  • Defnydd a Rennir – 217 metr

Cyfleusterau teithio llesol newydd ac wedi eu gwella

  • Goleuadau stryd ychwanegol wrth glwyd yr ysgol
Diwygiwyd Diwethaf: 10/11/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

 

Nôl i’r Brig