Teithio Llesol yn Nhorfaen

Cycle Routes

Mae Teithio Llesol yn golygu cerdded a beicio (yn cynnwys defnyddio sgwteri symudedd) ar gyfer teithiau dyddiol.

Mae hyn yn cynnwys teithio i’r ysgol, i’r gwaith, i’r siopau neu i ddefnyddio gwasanaethau, er enghraifft, canolfannau iechyd neu hamdden. Nid yw teithio llesol yn cynnwys cerdded a beicio am resymau hamdden neu gymdeithasol.

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol.

Gallwch ddefnyddio map Torfaen i weld llwybrau cerdded, beicio a cherdded a beicio, yn ogystal â seilwaith fel croesfannau, tai bach, mannau i barcio beic a llwybrau’r dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth am y mapiau, ewch i mapdata.llyw.cymru

Diwygiwyd Diwethaf: 25/09/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdogaeth

Ffôn: 01633 648035

E-bost: mark.panniers@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig