Cynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen

Cytundeb Cyflenwi (CC)

Ar ôl cymeradwyaeth gan y Cyngor ar 18fed Gorffennaf 2023, cymeradwywyd y Cytundeb Cyflenwi ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen (CDLl), 2022-2037 gan Lywodraeth Cymru mewn llythyr dyddiedig 20fed Gorffennaf 2023. Mae’r Cynllun Cyflenwi yn cyflwyno amserlen ar gyfer cynhyrchu’r Cynllun, gan gynnwys pryd y byddwn ni’n â rhanddeiliaid yn ystod camau amrywiol; a Chynllun Cyfranogiad Cymunedol, Mae Crynodeb Gweithredol dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) hefyd wedi cael eu paratoi.

Cymerwch Ran

Os hoffech chi gael gwybod am ddatblygiad y CDLl newydd (2022-2037) / dogfennau cysylltiol a’r canllaw cynllunio atodol, gan gynnwys cychwyn yr alwad newydd am Safleoedd Ymgeisiol a’r ymgynghoriadau wedyn, cofrestrwch eich diddordeb yma. Nodwch os gwelwch yn dda, bydd pob gwybodaeth bersonol a ddatgelir i ni’n cael ei phrosesu’n unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Datblygu Lleol sy’n esbonio sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth a bydd yn cael ei chadw dim ond yn ein cronfa ddata ymgynghoriad am gyfnod y broses o baratoi’r Cynllun.

Y Cam Nesaf - Safleoedd Ymgeisiol

Y cam Galw am Safleoedd Ymgeisiol yw’r cam ffurfiol cyntaf wrth baratoi’ CDLlN ac mae#’n gam pwysig ym mhroses casglu gwybodaeth y Cyngor. Bydd y broses Galw am Safleoedd Ymgeisiol yn dechrau ddydd Mawrth 1af Awst a bydd yn mynd am 8 wythnos tan ddydd Mawrth 26ain Medi 2023.

Mae gwybodaeth am safleoedd ymgeisiol ac ynglŷn â sut i gyflwyno un trwy OpusConsult ar gael ar wefan y Cyngor - https://www.torfaen.gov.uk/cy/PlanningAndDevelopment/Planningpolicy/Local-Development-Plan-Review/Replacement-LDP-Candidate-Sites.aspx

Rhoddir manylion hefyd ynglŷn â chyfres o weithdai i gynorthwyo gyda’r broses gyflwyno a chyfres o ddogfennau cefnogol ynglŷn â’r fethodoleg asesu a’r wybodaeth y mae ei hangen i gyd-fynd â chyflwyniad Safleoedd Ymgeisiol.

Adroddiad Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol (Ionawr 2018)

Mabwysiadodd y Cyngor ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) ym mis Rhagfyr 2013. Mae'r cynllun yn llywio’r datblygiad a'r defnydd a wneir o dir yn y Fwrdeistref Sirol hyd 2021. Er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu diweddaru, mae'n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol adolygu'u CDLl o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl eu mabwysiadu, neu cyn hynny os yw canfyddiadau'r Adroddiadau Monitro Blynyddol (AMB) yn dangos pryderon sylweddol yng ngweithrediad y cynllun.

Dechreuwyd adolygu Cynllun Datblygu Lleol Torfaen yn 2017; a'r cam cyntaf oedd cyhoeddi Adroddiad Adolygu CDLl Torfaen ym mis Ebrill 2018. Mae Crynodeb Gweithredol o Adroddiad Adolygu CDLl Torfaen hefyd ar gael.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd wedi ei chynnwys yn Adroddiad yr Adolygiad, daethpwyd i'r casgliad y dylid diwygio'r CDLl a dylai hyn fod ar ffurf gweithdrefn adolygu lawn.

Canllaw Cynlluniau Datblygu

Mae Llywodraeth Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru wedi cynhyrchu canllaw i esbonio system y cynlluniau datblygu a’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae canllaw llawn a chrynodeb ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar eu gwefannau:

Cysylltu â Ni

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Polisi a Gweithredu Cynllunio ar ldp@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 648039 / 648805.

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Ar 25 Mai 2018, daeth y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol i rym, gan osod cyfyngiadau newydd ar sut y gall sefydliadau gadw a defnyddio'ch data personol a diffinio'ch hawliau o ran y data hwnnw. Gan gyfeirio at broses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, mae'r GDPR yn berthnasol i'r Safleoedd Ymgeisiol, Cronfa Ddata Ymgynghori CDLlN a sylwadau a ddaw i law mewn ymateb i bob ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Datblygu Lleol (CBS Torfaen) (Mawrth 2020) y gellir ei weld yma neu gellir darparu copi papur ar gais.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/08/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Polisi a Gweithredu Cynllunio

Ffôn: 01633 648039 / 648140

E-bost: ldp@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig