Cynllun Datblygu Lleol
Beth yw’r CDLl?
Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) cyfredol ar 3 Rhagfyr 2013 ac mae'n nodi lle bydd datblygiadau newydd fel tai, cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol a ffyrdd yn mynd. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau lleol ac yn dwyn ynghyd fuddiannau datblygu a chadwraeth i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn y defnydd o dir yn gydlynol ac yn darparu'r manteision mwyaf i'r gymuned.
Mae'r CDLl yn nodi polisïau'r cyngor o ran defnyddio tir a'i gynigion i reoli datblygu yn y fwrdeistref sirol hyd at 2021 a thu hwnt (bydd y CDLl yn parhau i fod yn ‘gynllun datblygu’ sy’n bodoli nes iddo gael ei ddisodli gan y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a fabwysiedir ar gyfer Torfaen, y mae wrthi'n cael ei baratoi ar hyn o bryd. Disgwylir y cynllun ym mis Hydref 2022), ac mae'n darparu'r sail ar gyfer cynllunio at ddibenion defnyddio tir yn y Fwrdeistref Sirol lle bydd ceisiadau cynllunio yn cael eu pennu. Mae'r cynllun yn rhoi arwydd clir o ble y caiff datblygu ei annog a lle y bydd yn cael ei wrthwynebu
Y CDLl a Fabwysiadwyd gan Dorfaen
Sut ydw i’n cael copi o’r cynllun?
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys Datganiad Ysgrifenedig ac Atodiadau, ynghyd â Mapiau Cynigion ar gyfer Gogledd a De'r Fwrdeistref sy'n nodi dyraniadau a chynigion o Bolisïau Datganiad Ysgrifenedig y CDLl. Mae Map Cyfyngiadau ar wahân wedi ei gynhyrchu sy'n dangos ystyriaethau / cyfyngiadau cynllunio y tu allan i reolaeth y CDLl. Fodd bynnag, nid yw'r map hwn yn cynnwys unrhyw gynigion na gwybodaeth am bolisi cynllunio ac nid yw'n rhan o'r CDLl. Gellir lawr lwytho'r dogfennau hyn isod:
Mae Taflen Grynodeb fer hefyd ar gael, sy’n cwmpasu agweddau o benawdau’r Cynllun Datblygu Lleol a Fabwysiadwyd gan Dorfaen, ei strategaethau a’i gynigion. Mae’r daflen hon ar gael yn Saesneg a Chymraeg.
Astudiaethau blynyddol
Ar ôl ei fabwysiadu, mae’n ddyletswydd arnom i adolygu’r holl faterion y disgwylir iddynt effeithio ar ddatblygiad eu maes. Gwneir hyn drwy nifer o astudiaethau yr ymgymerir â hwy yn flynyddol:
Dogfennau Eraill y Cynllun Datblygu Lleol
Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd (yn cynnwys yr adroddiad amgylcheddol)
Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd (yn cynnwys Newidiadau â Ffocws) (Mawrth 2012) fel y'i diwygiwyd gan yr Atodiad AC o Newidiadau â Ffocws Pellach (Rhagfyr 2012), Atodiad AC o'r Newidiadau a Argymhellir i’r Materion Sy’n Codi a’r Newidiadau i’r Materion Sy’n Codi (Gorffennaf 2013) a’r Atodiad AC i Newidiadau’r Arolygwr (Rhagfyr 2013) yn cynnwys Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd y CDLl terfynol. Mae’r manylion wedi’u cynnwys yn y dogfennau a ganlyn:
Diwygiwyd Diwethaf: 23/05/2023
Nôl i’r Brig