Canllawiau Cynllunio Atodol
Beth yw Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn ddogfennau a gynhyrchir gan y Cyngor i roi arweiniad i'r cyhoedd, ymgeiswyr a datblygwyr wrth wneud ceisiadau cynllunio. Mae'r CCA yn darparu gwybodaeth atodol mewn perthynas â'r polisïau yn y Cynllun Datblygu lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Torfaen. Mae'n fodd o gynnig canllawiau thematig neu fanylach o ran sut y bydd y polisïau hyn yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol. Mae CCA yn un o'r 'ystyriaethau materol' y rhoddir ystyriaeth iddynt wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio neu apeliadau.
Gall y CCA fod ar ffurf y canlynol:
- Canllawiau penodol ynghylch bioamrywiaeth neu ddyluniad blaen siop
- Canllawiau'n ymwneud â safleoedd penodol, fel fframweithiau datblygu neu briffiau datblygu; a
- Chanllawiau neu drothwyon rhifiadol a allai newid yn ystod oes y cynllun, fel safonau meysydd parcio, er mwyn osgoi i'r cynllun cyfredol fynd yn hen yn rhy gyflym. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys y meysydd hynny lle y mae'r targedau hyn yn bolisi allweddol, fel targedau ar gyfer darpariaeth tai yn y dyfodol
CCA Seilwaith Gwyrdd Drafft a CCA Bioamrywiaeth, Gwytnwch Ecosystemau a Datblygiad Drafft
Ymgynghorodd y Cyngor ddrafft o Ganllaw Cynllunio Atodol Seilwaith Gwyrdd a drafft o ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol Bioamrywiaeth, Gwytnwch Ecosystemau a Datblygu. Rhwng 15fed Mehefin a 27ain Gorffennaf 2023. Mae swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried y sylwadau i gyd a gafodd eu gwneud, gyda’r bwriad o’u cyflwyno i’r Cyngor i’w mabwysiadu, gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol, yn Rhagfyr 2023
Mae Canllawiau Cynllunio Atodol Seilwaith Gwyrdd (CCA) drafft yn nodi sut y bydd y Cyngor yn mynd ati i ystyried seilwaith gwyrdd (SG) mewn perthynas â datblygiadau newydd. Mae'n rhoi arweiniad o ran dehongli a gweithredu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a fabwysiadwyd, Polisïau Strategol S3 (Newid yn yr Hinsawdd) ac S7 (Diogelu'r Amgylchedd Naturiol a Hanesyddol). Mae’r CCA drafft yn cynnwys adran Seilwaith gwyrdd gyffredinol yr ategir ati gan Atodiad Technegol sy’n seiliedig ar bynciau, ar y materion penodol a ganlyn:
- Coed a Choetiroedd o fewn Datblygiad
- Mannau agored a hamdden
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn Datblygiad
- Dylunio ac Asesu’r Dirwedd
Mae'r dull Seilwaith Gwyrdd yn defnyddio'r cysyniad o wasanaethau ecosystem fel ffordd o edrych ar y ffordd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol, sydd hefyd yn cyd-fynd â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ystyried y seilwaith gwyrdd presennol wrth baratoi eu cynllun ar gyfer safle a nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer cysylltedd a gwella'r adnodd presennol trwy'r cynigion dylunio.
Y pris am gopi caled o’r ddogfen CCA drafft yw: £12.05 (yn cynnwys cost postio a phacio)
Mae Crynodeb Gweithredol o Ganllaw Cynllunio Atodol Seilwaith Gwyrdd (drafft) hefyd ar gael.
Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Bioamrywiaeth, Gwydnwch Ecosystemau a Datblygu yn manylu ar sut y bydd Cyngor Torfaen yn sicrhau bod unrhyw ddatblygu o fewn y fwrdeistref sirol yn mynd ati i gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau. Mae hyn yn unol â pholisïau'r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd, a dyletswyddau ehangach bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau dan Ran 1, Adran 6, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (‘dyletswydd S6’) a Nod Cymru Gydnerth yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae'n esbonio sut y bydd polisïau CDLl Torfaen yn cael eu gweithredu ac yn darparu canllawiau penodol mewn perthynas â safleoedd dynodedig, yn cynnwys safleoedd rhyngwladol, cenedlaethol a lleol.
Mae’r CCA yn cyflwyno dull cam wrth gam fel y nodir yn y polisi cynllunio, sy’n anelu at ystyried bioamrywiaeth yn y broses rheoli datblygu cyn gynted ag sy’n bosibl, er mwyn sicrhau’r canlyniad cynaliadwy, orau a helpu i leihau oedi a chostau ychwanegol. Mae’n cyfleu arfer da o ran amseriad, graddfa, natur a chynnwys arolygon ecolegol ac asesiadau cynefinoedd, safleoedd a rhywogaethau.
Y pris am gopi caled o’r ddogfen CCA drafft yw: £11.45 (yn cynnwys cost postio a phacio)
Mae Crynodeb Gweithredol o Ganllaw Cynllunio Atodol Bioamrywiaeth, Gwytnwch Ecosystemau a Datblygu (drafft) hefyd ar gael
Map rhyngweithiol
I gefnogi rhai o'n dogfennau CCA mwy diweddar a’r rhai sydd ar y gweill, rydym wedi llunio map rhyngweithiol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen – Cynllun Lleol: Uwchgynllunio (opus4.co.uk). Mae’n berthnasol ar hyn o bryd i CCA y Briff Dylunio Safle, Uwchgynllunio a Datblygu a fabwysiadwyd 28 Chwefror 2023 a CCA y Lleoliadau Cynaliadwy a fabwysiadwyd ar 13 Mehefin 2023, fel y nodir isod. Bydd cyfleoedd ychwanegol i ddefnyddio’r feddalwedd mapio yn cael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf.
Cliciwch ar y ddolen i weld map o Dorfaen sy’n dangos haenau o wybodaeth (Cyfyngiadau a chyfleoedd) i’ch helpu i ddadansoddi’ch a chynllunio’ch safle datblygu. Gellir dod o hyd i leoliad neu safle drwy chwyddo’r map i ddod o hyd i’r ardal gywir neu wrth bori’r i ddod o hyd i’r cyfeiriad. Gellir gweld y gwahanol haenau o wybodaeth yn unigol neu mewn cyfuniad, drwy glicio i’w troi ymlaen neu i ffwrdd. Mae’r symbol llygad yn dangos y rheini sy’n weladwy. Mae unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gael drwy'r ‘i’. Gellir defnyddio’r offeryn i fesur pellteroedd ac ardaloedd. Mae tiwtorial a chymorth yn rhan o’r feddalwedd, ar ochr chwith y sgrin ond os byddwch yn cael unrhyw broblem neu os oes gennych ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ldp@torfaen.gov.uk.
Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys y data diweddaraf sydd gennym, ond dylai unrhyw ddefnyddiwr ei wirio i sicrhau ei fod yn gywir ‘ar lawr gwlad’.
Mae fersiwn Gymraeg o’r map ar gael drwy glicio ar y botwm iaith tuag at waelod y sgrin ar yr ochr chwith
CCA Lleoliadau Cynaliadwy
Mae’r CCA Lleoliadau Cynaliadwy (Mehefin 2023) wedi cael ei fabwysiadu gan y Cyngor erbyn hyn ac mae’n rhan o ystyriaeth berthnasol ym mhroses benderfyniadau’r Cyngor.
Ers mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Torfaen yn 2013, mae polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol wedi cael eu diweddaru'n sylweddol gyda ffocws allweddol ar gynaliadwyedd. Mae'r dull hwn yn ymgorffori gofynion Deddf Teithio Llesol 2013 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ogystal ag ymateb i'r argyfwng hinsawdd sydd wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen. Elfen sylfaenol o gynaliadwyedd mewn perthynas â chynigion datblygu yw lleoliad gyda pholisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol yn cynyddu'r pwyslais ar leihau pellteroedd teithio a chael gwared ar ddibyniaeth ar deithiau car preifat. Atgyfnerthwyd hyn yn ddiweddar gan Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023.
Er bod Polisi S2 (Datblygu Cynaliadwy) CDLl Torfaen yn croesawu'r nod hwn, mae'r Cyngor wedi cydnabod na allai pob ardal ddaearyddol yn ein haneddiadau presennol alluogi preswylwyr i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol heb ddefnyddio car. Mae penderfyniadau cynllunio diweddar y Cyngor wedi codi'r bar yn hyn o beth, gyda lleoliadau cynaliadwy yn cael mwy o bwysau fel ystyriaeth faterol (fel y nodir ym Mholisi S1 b)) gydag effaith o ganlyniad, ar y rhagdybiaeth o blaid datblygu o fewn ffiniau aneddiadau yn cael ei ddisodli lle bo hynny'n berthnasol o blaid ystyriaethau cynaliadwyedd.
Mae'r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hon felly'n nodi dull y Cyngor o asesu p’un a yw safle datblygu arfaethedig mewn 'lleoliad cynaliadwy' a all gyfrannu'n gadarnhaol tuag at gynaliadwyedd cyffredinol cymunedau a mynd ar drywydd ffyrdd o fyw sy'n ystyriol o’r hinsawdd yn Nhorfaen. Mae’n berthnasol i geisiadau cynllunio ar gyfer holl ddatblygiadau preswyl newydd o fewn y ffin drefol a ddiffinnir gan Bolisi S1 y CDLl a fabwysiadwyd, yn cynnwys ceisiadau Adran 73 i ymestyn cyfnod amser caniatâd.
Fel y diffiniwyd uchod, mae’r Cyngor wedi sefydlu map rhyngweithiol sy’n cynnwys meini prawf cynaliadwyedd yn benodol (lleoliad gwasanaethau a chyfleusterau nodweddiadol) sy’n ymwneud â’r CCA hwn.
Y pris am gopi caled o’r ddogfen CCA: £4.25 (yn cynnwys post a phacio)
CCA Dylunio Safle, Uwchgynllunio a Datblygu Briff
Mae'r SPG Dylunio Safle, Uwchgynllunio a Briff Datblygu (Chwefror 2023) bellach wedi cael ei fabwysiadu gan y Cyngor ac mae'n ffurfio ystyriaeth berthnasol wrth wneud penderfyniadau'r Cyngor. O ystyried bod hon yn ddogfen fwy technegol, rydym hefyd wedi llunio Crynodeb o’r CCA er gwybodaeth i chi.
Mae creu lleoedd, a'r angen am ddylunio o ansawdd uchel yn sylfaenol i ddull y cyngor o ddatblygu safleoedd yn Nhorfaen. Mae dau brif bwrpas i’r CCA hwn. Yn gyntaf, cafodd ei lunio i gefnogi ac ychwanegu manylion at y polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol (Rhagfyr 2013) a fabwysiadwyd ar gyfer Torfaen, ac yn ail, i lywio proses Cynllun Datblygu Lleol Newydd i Dorfaen. Mae'r CCA hwn yn darparu arweiniad pendant ar ffurf a chynnwys Uwch Gynlluniau a Briffiau Datblygu, a bydd yn sicrhau bod dull safonol yn cael ei fabwysiadu.
Dylai darpar ymgeiswyr, asiantau, penseiri, aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn cais, aelodau etholedig o'r Cyngor a chyrff eraill fynd ati i’w ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau, ond mae'n hynod berthnasol i ddatblygwyr sy'n ystyried cyflwyno cais cynllunio am ddatblygiad mawr (10+ o anheddau neu 1,000 m2+ arwynebedd llawr masnachol) ar hap-safleoedd (heb eu dyrannu) neu safleoedd a ddyrannwyd eisoes; ac i dirfeddianwyr / y sawl sy’n cynnig safle, wrth baratoi Briffiau Datblygu ar gyfer safle.
Cost am gopi caled o’r ddogfen CCA: £5.85 (gan gynnwys postio a phecynnu)
CCA Diwygiedig y Rhwymedigaethau Cynllunio (Rhagfyr 2023)
Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r CCA Rhwymedigaethau Cynllunio bellach wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor ac mae ar gael isod. Rydym hefyd wedi cynhyrchu Crynodeb o'r SPG er gwybodaeth.
Yn anochel, mae datblygiadau newydd yn cael effaith ar y gymuned a'r ardal gyfagos. Nod y system gynllunio yw mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau negyddol a, lle y bo'n bosibl, cyflwyno buddion cymunedol a/neu amgylcheddol drwy rwymedigaethau cynllunio. Mae'r Cyngor wedi llunio Canllawiau Cynllunio Atodol i esbonio sut caiff rhwymedigaethau cynllunio eu defnyddio ac mae'n cyflwyno ei ddisgwyliadau o ddatblygiadau newydd. Mae'r diwygiad hwn i'r CCA Rhwymedigaethau Cynllunio wedi'i ysgogi i raddau helaeth gan newid Llywodraeth Cymru yn yr ymagwedd at ffigurau Canllawiau Cost Derbyniol nad yw, o fis Ebrill 2022, yn cynnwys gwerth tir. Felly mae newidiadau i Atodiad 1 yn cynnwys system ar sail 'tariff' newydd ar gyfer eiddo rent cymdeithasol fforddiadwy. Yn ogystal, bydd yn ofynnol nawr i dai fforddiadwy gyfrannu tuag at unrhyw daliadau cynnal a chadw safle parhaus; ac mae proses newydd wedi'i chyflwyno sydd o bosibl yn caniatáu i RSL ddefnyddio Grant Tai Cymdeithasol LlC i gyfrif tuag at y canran tai fforddiadwy ar safle. Cymerwyd y cyfle i ddiweddaru nifer o elfennau eraill o'r CCA gan gynnwys cyfeirio at y Model Hyfywedd Datblygu fel y dull a ffefrir gan y Cyngor o asesu hyfywedd datblygu; eglurhad o ddull y Cyngor o gyfrifo capasiti ysgolion sydd ar gael a newidiadau i ofynion ardal fesul disgybl a diffiniadau costau. Mae'r CCA hefyd wedi bod yn destun mân welliannau geiriad a newidiadau i adlewyrchu'r pwyslais polisi / canllawiau cenedlaethol cynyddol ar leihau'r angen i deithio, dulliau teithio llesol, gwneud lleoedd a gwydnwch ecolegol yn ogystal â diweddariadau i gostau addysg a hamdden i adlewyrchu'r amgylchiadau presennol.
Mae'r CCA yn cyfeirio at ystod eang o faterion a allai fod yn destun rhwymedigaethau cynllunio. Ni fydd yr holl faterion hyn yn berthnasol i bob cais cynllunio. Bydd y Cyngor yn ystyried y materion sy'n berthnasol ar sail pob achos unigol, gan ystyried natur y cynnig datblygu, y safle a'r cyd-destun lleol. Nid yw'n disodli'r broses o drafod rhwymedigaethau cynllunio oherwydd caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei rinweddau unigol.
Mae CCA y Rhwymedigaethau Cynllunio yn ei gyfanrwydd (gan gynnwys atodiadau unigol) ar gael i'w lawrlwytho yn y fan hon. I hwyluso'r defnydd ohonynt, mae'r atodiadau unigol hefyd ar gael i'w lawrlwytho o'r dolenni isod:
Mae dogfennau pellach sydd ar gael i'w lawrlwytho mewn perthynas â CCA y Rhwymedigaethau Cynllunio fel a ganlyn:
Cost am gopi caled: £24.85 (gan gynnwys postio a phecynnu)
Tâl Gweinyddu a Monitro ar gyfer Cytundebau S106 / Safonau Lefel Gwasanaeth
Mae'r Cyngor ar 28 Mehefin 2011 wedi penderfynu cyflwyno system ffioedd ar wahân sy'n berthnasol i geisiadau cynllunio sy'n galw am brosesu a monitro cytundeb cyfreithiol Adran 106, a chyhoeddi ei Safonau Lefel Gwasanaeth cysylltiedig. Bydd y ffi a godir yn cyfrannu at yr adnoddau gweinyddol a phroffesiynol sy'n ofynnol yn yr Adran Gynllunio i ddarparu'r gwasanaeth cynllunio. Mae’r Tâl Gweinyddu a Monitro ar gyfer Cytundebau S106 a Safonau Lefel Gwasanaeth S106 ar gael i’w lawr lwytho.
Dogfennau CCA eraill a fabwysiadwyd
Mae dogfennau eraill a fabwysiadwyd fel Canllawiau Cynllunio Atodol gan y Cyngor ar gael i'w lawrlwytho isod a/neu eu prynu ar ffurf copi caled trwy gysylltu â'r tîm Blaengynllunio:
Dogfennau Eraill
Rhagor o Wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch CCA trwy gysylltu â'r tîm Blaengynllunio neu'r tîm Rheoli Datblygu yn Nhorfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/10/2023
Nôl i’r Brig