Cynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen: Safleoedd Ymgeisiol

Cynhaliwyd ymarfer i Alw am Safleoedd Ymgeisiol y Cyngor am 8 wythnos rhwng 1 Awst 2023 a 26 Medi 2023 ac mae bellach wedi cau. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn ymgymryd â'r Asesiad Cam 1: Lefel Uchel fel y nodir yn y fethodoleg a gyhoeddwyd- Asesiad Safleoedd Ymgeisiol a Methodoleg y Gofrestr (Mai 2023) ac Asesiad Safleoedd Ymgeisiol a Methodoleg y Gofrestr  (Mai 2023) - Crynodeb Gweithredol

Cyhoeddir y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol a drafft o Asesiad Cam 1 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir gan y CDLl a ddisgwylir ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2025. Ar yr un pryd, bydd y Cyngor yn agor Ail Alwad am Safleoedd Ymgeiswyr a chyfle i’r sawl sy’n cynnig safle gyflwyno Gwybodaeth Ategol Ychwanegol Yma, gallwch gofrestru i gael gwybod am ddiweddariadau, ymgynghoriadau a chamau allweddol ym mhroses y Cynllun, gan gynnwys yr alwad am Safleoedd Ymgeisiol https://torfaen.oc2.uk/cy/register/process/0

Gwybodaeth Ategol Ychwanegol ar gyfer Safleoedd a Gyflwynwyd Eisoes ym mis Medi 2023

Bydd drafft o Asesiad Cam 1 yn nodi a fydd eich safle yn symud ymlaen i Gyfnod 2 y broses asesu. Bydd gofyn i bob safle sy'n mynd ymlaen i'r asesiad Cam 2 gyflwyno Arolygon Ecolegol priodol ac asesiad hyfywedd ariannol (gweler Nodiadau Canllawiau a MDD isod) i’w cefnogi. Efallai y bydd angen arolygon neu adroddiadau ychwanegol yn dibynnu ar  amgylchiadau eich safle . Dylai'r rhain fod wedi cael eu codi drwy'r broses gyflwyno adweithiol yn OpusConsult ac mae'r cyngor yn parhau i fod ar gael i chi fel rhan o'ch manylion cyflwyno.

Safleoedd Newydd ar gyfer yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol

Bydd y Cyngor yn agor Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol. Disgwylir hyn ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2025 i redeg ochr yn ochr â'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol a drafft o Asesiad Cam 1. Bydd angen i bob safle ymgeisiol a gyflwynir (oni bai ei fod i ddiogelu’r defnydd presennol) gynnwys arolwg ecolegol, asesiad hyfywedd ariannol ac unrhyw adroddiadau neu arolygon eraill sy’n benodol i’r safle i ddangos bod y safle’n gallu cyflawni’r datblygiad arfaethedig. Mae mwy o wybodaeth i gael isod.

Beth yw safle ymgeisiol?

Safle a gyflwynir i’r Cyngor gan barti sydd â diddordeb (e.e. datblygwyr neu dirfeddianwyr) ar gyfer ei gynnwys fel dyraniad yn y CDLlN yw safle ymgeisiol.

Pa fathau o safleoedd gellir eu cyflwyno?

Mae croeso i dirfeddianwyr/cynigwyr gyflwyno safleoedd ar gyfer yr amrywiaeth o ddefnyddiau y mae’r Cynllun yn darparu ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i:

Tai (Marchnad a Fforddiadwy); Cyflogaeth; Mân-werthu; Cyfleusterau Cymunedol; Twristiaeth a Hamdden; Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy; Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr; y Seilwaith Trafnidiaeth; Gwastraff; Addysg; Iechyd; Bioamrywiaeth; Seilwaith Gwyrdd; Echdynnu Mwynau.

Cyflwyno safle ymgeisiol

Mae Cyngor Torfaen wedi mabwysiadu OpusConsult (yn cynnwys OpusMap) i ymgymryd â’r Galwad am Safleoedd Ymgeisiol, sy’n darparu ffurflenni ymatebol, y mapiau cysylltiedig, a’r gallu i lan lwytho’r dogfennau ategol i gefnogi’r cam o gyflwyno Safle Ymgeisiol. Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyflwyno safle yn cael ei darparu yn nes at yr amser.

Cyn cyflwyno safle ymgeisiol, cynghorir y sawl sy’n cynnig i adolygu’r Nodyn Cyfarwyddyd Cyflwyno Safle Ymgeisiol (Mai 2023) a Nodyn Cyfarwyddyd Cyflwyno Safle Ymgeisydd (Mai 2023) – Crynodeb Gweithredol, sy’n rhoi cyngor ar y mathau o safle sy’n debygol o gael eu derbyn, a’r wybodaeth fydd ei hangen i gefnogi’r cam o gyflwyno safle ymgeisiol.

Mae Dichonoldeb Ariannol yn ystyriaeth allweddol ym mhroses asesu safleoedd ymgeisiol.  Mae Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 12 yn dweud bod rhaid darparu asesiad dichonoldeb ar gyfer pob safle ymgeisiol i ddangos a yw’r safle’n ddichonol ai peidio. Nodwch, os gwelwch yn dda, y ddogfen Galwad am Safleoedd Ymgeisiol, Cyfarwyddyd Dichonoldeb Ariannol (Mai 2023) ac Galwad am Safleoedd Ymgeisiol, Cyfarwyddyd Dichonoldeb Ariannol (Mai 2023) - Crynodeb Gweithredol sy’n gosod gerbron gofynion y Cyngor ac sy’n rhoi gwybodaeth gefnogol ddefnyddiol yn hyn o beth.

Yn ogystal â’r uchod, dylai’r rheiny sy’n cynnig safleoedd gyfeirio hefyd at y canlynol:

Sylwch y bydd rhai o'r dogfennau hyn yn debygol o gael eu diweddaru cyn yr 2il ymarfer Galw am Safleoedd / Gwybodaeth Ategol, a ddisgwylir ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2025; o ystyried cyhoeddiad dilynol 12fed Rhifyn o Bolisi Cynllunio Cymru ym mis Chwefror 2024 (sy’n effeithio'n bennaf ar 'Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol' a'r 'Nodyn Canllaw Arolwg Ecoleg'); diweddariad cyfredol o 'Safleoedd Ymgeiswyr OpusMap GIS' (h.y. yr haenau ar gyfer safleoedd / llwybrau bysiau, llwybrau teithio llesol, Seilwaith Gwyrdd, Gwasanaethau Lleol a Chyfleusterau, ardaloedd wedi'u mireinio ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt a solar, ac ati.); a diweddariadau a ddisgwylir yn y dyfodol o ran “Fframwaith Asesu” Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig’, Nodyn Canllaw ‘Hyfywedd Ariannol’.

GDPR

Ar 25ain Mai 2018 daeth y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym, gan osod cyfyngiadau newydd ar sut all sefydliadau gadw a defnyddio’ch data personol a diffinio’ch hawliau mewn perthynas â’r data hwnnw. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddatgelir i ni yn cael ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd CDLlN.

Model Dichonoldeb Datblygu (MDD)

Mae’r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau eraill yn y rhanbarth, ochr yn ochr â’r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygiad Trefol, Burrows-Hutchinson Ltd, i sefydlu’r teclyn asesu.  Mae’r MDD wedi cael ei greu fel model cynhwysfawr, hawdd ei ddefnyddio i hyrwyddwyr safleoedd a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau, at ddibenion asesu dichonoldeb ariannol cynnig o ddatblygiad. Mae’n rhaid i hyrwyddwr safleoedd gyflwyno asesiad dichonoldeb ariannol gan ddefnyddio’r MDD fel rhan o’r broses Cam 2 Asesiad Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r ffioedd ar gyfer copi o’r MDD fel a ganlyn:

Cynlluniau Preswyl

  • 1-9 annedd - £195 +TAW (£234)
  • 10-50 anheddau - £345 +TAW (£414)
  • 51-100 anheddau - £495 +TAW (£594)
  • 101-150 anheddau - £595 +TAW (£714)
  • 151-250 anheddau - £650 +TAW (£780)
  • 251-350 anheddau - £750 +TAW (£900)
  • 351-450 anheddau - £850 +TAW (£1,020)
  • 451-550 anheddau - £950 +TAW (£1,140)
  • 551-650 anheddau - £1,050 +TAW (£1,260)
  • 651-750 anheddau - £1,150 +TAW (£1,380)
  • 751-850 anheddau - £1,250 +TAW (£1,500)
  • 851-950 anheddau - £1,350 +TAW (£1,620)
  • Dros 950 o anheddau - £ i'w gytuno gyda'r Cyngor yn dibynnu ar faint / cymhlethdod y cynnig

Cynlluniau Masnachol

  • Llai na 0.4ha - £195 +TAW (£234)
  • 0.4ha to <2.0ha - £345 +TAW (£414)
  • 2.0ha to <4.0ha - £495 +TAW (£594)
  • Dros 4ha - £ i'w gytuno gyda'r Cyngor yn dibynnu ar faint / cymhlethdod y cynnig

I gael copi o’r MDD sy’n benodol o ran safleoedd, ynghyd â’r canllaw i ddefnyddwyr a fideos, neu i drafod unrhyw faterion mewn perthynas â’r MDD, cysylltwch â ni trwy ldp@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Polisi a Gweithredu Cynllunio

Ffôn: 01633 648039 / 648140

Ebost: ldp@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig