Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SDTC)

Mae systemau draenio cynaliadwy, y cyfeirir atynt yn gyffredin fel SuDS, yn rheoli cyfaint a chyfradd y dŵr sy’n rhedeg oddi ar yr arwyneb i wneud y mwyaf o’r buddion i’r amgylchedd.     

Mae systemau draenio cynaliadwy yn dynwared draeniau naturiol, felly mae dŵr yn rhedeg yn agos at yr wyneb ac yn agos at ei ffynhonnell.  

Mae angen draenio cynaliadwy ar bob datblygiad newydd o fwy nag un tŷ, neu lle mae'r ardal adeiladu yn 100m2 neu fwy.  

Rhaid i'r systemau draenio hyn gael eu cymeradwyo gan y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) lleol cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.  

Mi fydd yn ddyletswydd ar y SAB i gymeradwyo systemau sy’n cydymffurfio, a’u mabwysiadu, os yw’r system yn gwasanaethu mwy nag un eiddo.

Mae Cyngor Caerffili yn rhoi cyngor cyn ymgeisio a chymeradwyaeth dechnegol i geisiadau SuDs ar ran Cyngor Torfaen. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Caerffili neu anfonwch e-bost i sab@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 27/04/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy

E-bost: sab@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig