Sut ydw i'n gwneud sylwadau neu wrthwynebu cais cynllunio?

Unwaith y bydd cais cynllunio wedi cael ei gofrestru, bydd manylion y cais ar gael i chi ei weld ar ein Gwasanaeth Cynllunio Mynediad Cyhoeddus neu yn swyddfeydd y Cyngor yn Nhŷ Blaen, Y Dafarn Newydd i weld sut allai effeithio arnoch chi. Bydd pob cais cynllunio yn hygyrch drwy wefan Torfaen a bydd yn cynnwys cyfleuster lle gellir cyflwyno sylwadau ar lein.

Cyhoeddir ceisiadau drwy anfon llythyrau yn uniongyrchol i gymdogion sy'n byw agosaf at gyfeiriad y cais, trwy arddangos rhybudd ar y safle neu'n agos i'r safle, trwy osod hysbysiad yn y 'Wasg' neu gyfuniad o'r tri. Dylai unrhyw un sy'n dymuno cynnig sylwadau wneud hynny drwy ysgrifennu at:

Pennaeth Rheoli Datblygu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
Tŷ Blaen Torfaen
Ffordd Panteg
Y Dafarn Newydd
Pont-y-pŵl 
NP4 0LS

Trwy e-bostio: planning@torfaen.gov.uk neu drwy ein Gwasanaeth Cynllunio Mynediad Cyhoeddus.

Rhaid i unrhyw sylwadau ddod i law o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad. Dylech nodi y gall y cyhoedd weld yr holl sylwadau a dderbynnir. Byddwch yn siŵr i ddyfynnu'r cyfeirnod. Ysgrifennwch rif cyfeirnod y cais cynllunio ar eich gohebiaeth. Os hoffech chi gael gwybod y penderfyniad dylech roi gwybod i ni. Fel arall, mae'r holl benderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn ymddangos ar wefan y Cyngor.

Nodwch os gwelwch yn dda, nid yw’n golygu bod rhaid i chi fod wedi derbyn llythyr gennym ni cyn i chi fedru cynnig sylwadau.

Diwygiwyd Diwethaf: 31/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cynllunio
Ffôn: 01633 648095
E-bost: planning@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig