Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 29 Mai 2026
Mae cyfres o ddigwyddiadau gwirfoddoli amgylcheddol wedi'u trefnu ar gyfer Wythnos Gwneud Gwahaniaeth eleni.
Mae digwyddiadau sy'n amrywio o gasglu sbwriel i dynnu Jac y Neidiwr wedi'u trefnu fel rhan o wythnos o weithgareddau gyda'r nod o ffrwyno pŵer gweithredu cymunedol i fynd i'r afael â materion amgylcheddol lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mehefin yw Mis Gweithredu Cymunedol, sy'n dathlu ac yn hyrwyddo gwirfoddoli a chyfranogiad cymunedol.
"Dim ond un o'r wythnosau yn ystod y mis yr ydym wedi cynllunio digwyddiadau yw Wythnos Gwneud Gwahaniaeth.
"Mae'r wythnos hon yn gorgyffwrdd ag Wythnos Gwirfoddolwyr, a dyna pam rydyn ni'n annog pobl i ddod i'n digwyddiadau, derbyn hyfforddiant am ddim, a dod yn rhan o'n hymdrech i gadw sbwriel a phlanhigion goresgynnol i ffwrdd ledled Torfaen.
"Mae'r digwyddiadau hyn yn enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith – byddwn yn darparu'r wybodaeth, yr offer a'r gefnogaeth, ac yn gyfnewid am hyn rydym yn gofyn i drigolion ein helpu i ofalu am ein hamgylchedd lleol."
Mae Wythnos Gwneud Gwahaniaeth yn mynd o ddydd Sul, 30 Mai i ddydd Gwener, 5 Mehefin. Mae digwyddiadau’n cynnwys:
- Dydd Mawrth, 2 Mehefin – lansiad Clec i Jac, Llyn Cychod Cwmbrân (cwrdd wrth y gasebo), 10am–2pm
- Dydd Mercher, 3 Mehefin – Codi sbwriel a Chlec i Jac, Pentre Uchaf, (cwrdd yn y maes parcio), 10am–1pm
- Dydd Iau, 4 Mehefin – Clec i Jac, Gwarchodfa Natur Leol Tirpentwys, 10am–1pm
- Dydd Gwener 5 Mehefin – Codi sbwriel a Chlec i Jac, Llyn Cychod Cwmbrân (cwrdd wrth y maes parcio wrth yr afon), 10am–1pm
Mae'r holl ddigwyddiadau yn agored i'r cyhoedd, heb angen am unrhyw brofiad blaenorol. Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu tywys gan staff y cyngor ar y diwrnod.
Cynghorir cyfranogwyr i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd, gwisgo esgidiau cadarn, a dod â menig gwaith os yw’n bosibl (bydd nifer cyfyngedig ar gael).
Bydd digwyddiadau Clec i Jac yn parhau tan fis Awst.
I wybod mwy am ymgyrch Clec i Jac a sut i gymryd rhan ar ôl Wythnos Gwneud Gwahaniaeth, ewch i https://cymrydrhan.torfaen.gov.uk
Eisiau gwirfoddoli? Ewch i Cysylltu Torfaen i chwilio am gyfleoedd yn eich ardal.
Mae'r digwyddiadau casglu sbwriel yn cael eu hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England drwy'r prosiect Planed Iach Pobl Iach.
Mae digwyddiadau Clec i Jac yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.