Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Mehefin 2026
Rydym yn dathlu grym digwyddiadau cymunedol i ddod â phobl at ei gilydd, meithrin balchder dinesig a rhoi hwb i’r economi leol fel digwyddiad Relay for Life ym Mhont-y-pŵl, sy’n dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni.
Bydd Ras Gyfnewid am Oes yn dathlu degawd ar 4 - 5 Gorffennaf ym Mharc Pont-y-pŵl ar ran Ymchwil Canser y DU.
Mae'r digwyddiad cymunedol yn dwyn ynghyd timau sy’n cerdded am gyfnod parhaus o 24 awr, ac mae o leiaf dau gyfranogwr ar y trac bob amser yn cario batwn, sy'n symbol o'r frwydr barhaus yn erbyn canser.
Eleni, bydd tua 21 o dimau yn cymryd rhan, gan gynnwys tîm Cyngor Torfaen sy’n cael ei alw’n Dîm Torfaen.
Dywedodd Caroline Genever-Jones, Rheolwr Etholiadau a Busnes, ac un o arweinwyr y tîm: “Dyma'r drydedd flwyddyn i ni gymryd rhan yn y Ras Gyfnewid am Oes ac mae'n gwella bob blwyddyn. Mae canser wedi effeithio ar bawb yn y tîm mewn un ffordd neu’r llall, felly mae’n gyfle gwych i ni gofio ein hanwyliaid a chefnogi ein gilydd.” Ychwanegodd
Leanne Powell, Cadeirydd y Digwyddiad,: "Mae ein cymuned fach yn Nhorfaen wedi codi bron i £700,000 ar gyfer ymchwil Canser y DU yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, sy'n rhywbeth rwy'n hynod falch ohono. Mae ein cerddwyr yn dibynnu ar y gefnogaeth maen nhw'n ei gael ar y diwrnod i'w cadw i fynd trwy gydol y 24 awr. Dewch draw yn ystod y dydd i ddathlu gyda ni. Bydd stondinau, gwerthwyr bwyd, ac adloniant lleol gwych o 11am.”
Mae'r digwyddiad, sy'n dechrau ar ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf, yn cynnwys adloniant yn ystod y dydd fel cantorion a bandiau, corau, grwpiau dawns, a hyd yn oed band iwcalili.
Bydd seremoni Cannwyll Gobaith yn cael ei chynnal am 9:30pm, felly dyma gyfle i ddathlu, cofio, cael gobaith a chredu.
Mae croeso cynnes i bawb. I gyfrannu, ewch i www.justgiving.com
Bydd yr holl elw yn mynd i Ymchwil Canser y DU, sy’n cefnogi ymchwil hanfodol, a dod cam yn nes at ddod o hyd i wellhad