Hwb cymunedol yn tyfu'n gryfach gyda'i gilydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24 Mehefin 2026
cold Barn Farm

Rydyn ni’n dathlu pŵer digwyddiadau cymunedol i ddod â phobl at ei gilydd, meithrin balchder dinesig a rhoi hwb i'r economi leol.

Mae canolfannau cymunedol wrth galon cymdogaethau lleol, ac yn cynnal gweithgareddau rheolaidd, fel y rheiny sy’n cael eu cynnal yn Cold Barn Farm yn Nhrefddyn.

Ers ffurfio pwyllgor dan arweiniad gwirfoddolwyr yn 2021, mae Cold Barn Farm wedi mynd o nerth i nerth, a’r presenoldeb wythnosol wedi codi o tua 20 o bobl i fwy na 350.

Mae’r ganolfan elusennol bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, ac mae’n paratoi at raglen lawn o weithgareddau ar gyfer yr haf, gyda diwrnod o hwyl i'r teulu ddydd Sadwrn 1 Awst.

Ochr yn ochr â digwyddiadau, mae'r ganolfan yn rhoi cymorth hanfodol i’r gymuned, gan gynnwys parseli bwyd mewn partneriaeth ag Eglwys King’s, mynediad at Gyngor ar Bopeth, a theithiau wedi'u trefnu i helpu i fynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol.

Meddai Richard Jackson, Cadeirydd Canolfan Gymunedol Cold Barn Farm:

"Mae Cold Barn wedi tyfu i fod yn ganolfan wych i drigolion. Rydyn ni’n gwrando ar y gymuned rydyn ni'n ei gwasanaethu drwy’r amser ac yn ymdrechu'n barhaus i ddiwallu anghenion lleol.

"Rydyn ni'n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni, ond mae ein ffocws lawn cymaint ar y dyfodol, ac ar ddatblygu cyfleoedd newydd, gwella ein cyfleusterau a sicrhau bod y ganolfan yn parhau i fod wrth galon y gymuned."

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda chefnogaeth Tîm Meithrin Gallu'r Cyngor, mae'r ganolfan wedi sicrhau mwy na £39,000 trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan helpu i ariannu system paneli solar a batri newydd, goleuadau LED, lloriau newydd a dodrefn gwell.

Mae hyn, ynghyd â chyllid grant ychwanegol ac ymdrechion llwyddiannus i godi arian, wedi helpu'r ganolfan i gyflawni trosiant blynyddol o fwy na £100,000.

Mae Cold Barn Farm yn dal i dyfu ei harlwy, gan gynnwys rhandir cymunedol a rhaglen wythnosol amrywiol o weithgareddau fel boreau coffi, bingo a nosweithiau cwis.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae'r cynlluniau'n cynnwys gwelliannau i fannau awyr agored sy'n canolbwyntio ar iechyd a llesiant, a’r posibilrwydd o adnewyddu'r ardal gêmau aml-ddefnydd (MUGA).

Meddai David Leech, Cyfarwyddwr Strategol Oedolion a Chymunedau Cyngor Torfaen:

"Mae Cold Barn Farm yn enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith, lle mae cymunedau, y Cyngor a phartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i greu cymdogaethau cryfach a gwytnach.

"Mae ymroddiad gwirfoddolwyr lleol wedi trawsnewid y lle hwn yn hwb cymunedol ffyniannus, sy’n cefnogi llesiant, yn lleihau ynysu ac yn creu cyfleoedd i drigolion.Dyma'r union fath o lwyddiant dan arweiniad y gymuned rydyn ni am ei weld trwy Fargen Torfaen."

Am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar y gweill yn eich cymuned, ewch i wefan Cysylltu Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/06/2026 Nôl i’r Brig