Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24 Mehefin 2026
Camwch allan i'r awyr agored a chymerwch ran mewn menter werth chweil, sy’n gymdeithasol ac yn wirioneddol ystyrlon, trwy ddod yn Stiward Natur yn Nhorfaen.
Mae'r fenter wirfoddoli hon yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ac yn helpu pobl ar draws y Fwrdeistref i feithrin cysylltiad o’r newydd â natur a chwarae rhan ymarferol wrth ddiogelu bywyd gwyllt a mannau gwyrdd lleol.
Mae gwreiddiau’r rhaglen yn ysbryd Bargen Torfaen, ac mae’n dod â phobl at ei gilydd i feithrin balchder yn eu hardal, cefnogi ei gilydd a chreu dyfodol iachach a gwyrddach i bawb.
Dydy dod yn Stiward Natur ddim golygu cadwraeth yn unig; mae'n golygu teimlo'n dda hefyd.
Efallai y byddwch chi’n plannu coed, yn archwilio gwarchodfeydd natur lleol, neu’n helpu bywyd gwyllt i ffynnu. Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud, bydd pob sesiwn yn cynnig rhywbeth gwahanol a difyr a fydd yn codi’r ysbryd. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn dweud ei bod yn ffordd wych o glirio'ch pen, rhoi hwb i'ch hwyliau a chwerthin yng nghwmni pobl newydd ar hyd y daith.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i chi:
- Arolygon bywyd gwyllt ymarferol
- Creu cynefinoedd i blanhigion ac anifeiliaid
- Rheoli gwarchodfeydd natur lleol a’u gwella
- Plannu coed a gofalu am y dirwedd
- Taclo rhywogaethau goresgynnol
Cynhelir y sesiynau bob dydd Iau, rhwng 10am a 12:30pm, mewn mannau gwyrdd hardd ar draws Torfaen, ac mae’r lleoliadau'n cael eu rhannu ymlaen llaw bob wythnos.
Dim profiad? Dim problem! Darperir popeth fydd eu hangen arnoch, gan gynnwy hyfforddiant, offer a chyfarpar diogelu personol.
Mae Stiwardiaid Natur yn agored i bawb, waeth a ydych chi eisiau ymuno’n rheolaidd neu alw heibio pan allwch chi. Mae'n ffordd syml o roi rhywbeth yn ôl, teimlo'n well, a bod yn rhan o ymdrech gymunedol sy'n wirioneddol bwysig.
Anfonwch neges trwy e-bost i Rose.Scott@torfaen.gov.uk am ragor o wybodaeth am ddod yn Stiward Natur.
Am ragor o gyfleoedd i wirfoddoli a digwyddiadau ewch i connecttorfaen.org.uk