Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Mehefin 2026
Rydyn ni am hysbysu trigolion a modurwyr am ffyrdd sy’n mynd i fod ar gau dros dro ar draws Torfaen ddydd Sul, 12 Gorffennaf, er mwyn sicrhau diogelwch y rheiny sy'n cymryd rhan yn ras ffordd 10K Mic Morris Torfaen.
Tua 1,200 o redegwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer ras eleni, sy’n cychwyn am 9am ym Mlaenafon, gyda disgwyl i bawb orffen ym Mharc Pont-y-pŵl erbyn 11am.
Bydd y rhannau canlynol o'r ffordd ar gau ar yr amseroedd a nodir:
- Blaenafon i Abersychan (cyffordd yr A4043 a'r B4246): 8:00am – 10:00am
- Old Road Abersychan i Heol yr Ysbyty: 9:00am – 10:30am
- Hospital Road i Park Road (Byddin yr Iachawdwriaeth): 9:15am – 10:45am
Bydd ffyrdd ochr ar agor o hyd, ond ni chaniateir unrhyw gerbydau ar lwybr y ras yn ystod y digwyddiad. Bydd mynediad i’r gwasanaethau brys ar bob adeg.
Mae’r rhestr lawn o ffyrdd y bydd hyn yn effeithio arnynt yn cynnwys:
- A4043 Cwmavon Road (o Prince Street/New William Street ym Mlaenafon i Old Road yn Abersychan)
- Old Road
- Limekiln Road
- Freeholdland Road
- George Street
- Mill Road
- Hospital Road
- Rhan ogleddol Osbourne Road (i fyny at Lan yr Afon)
- Glan yr Afon
- Park Road yn arwain at Penygarn Road
Os yw'r ffyrdd sydd ar gau yn effeithio ar eich gallu i deithio neu gyfrifoldebau gofal, cysylltwch â Chyngor Torfaen ar 01633 628936 cyn gynted â phosibl.
Meddai Ben Jeffries, trefnydd y digwyddiad, o Gyngor Torfaen:
"Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i ni gau’r ffyrdd dros dro. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, byddwn yn cau’r ffyrdd mewn camau, i sicrhau ein bod yn tarfu cyn lleied â phosibl, a bydd ffyrdd yn ailagor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Bydd trigolion sy’n byw ar y ffyrdd yr effeithir arnynt wedi cael gwybodaeth ymlaen llaw i'w helpu i gynllunio.
"Rydyn ni wrth ein bodd fod y ras eleni wedi gwerthu allan, felly diolch i bawb sy'n cymryd rhan, mae eich cefnogaeth yn helpu i ysbrydoli a datblygu athletwyr y dyfodol ar draws Torfaen."
Bydd holl elw'r ras yn mynd i Gronfa Ymddiriedolaeth Chwaraeon Goffa Mic Morris, sy'n cefnogi athletwyr ifanc yn Nhorfaen.
Os oes ddiddordeb gennych mewn gwirfoddoli i gefnogi'r digwyddiad, cysylltwch â Ben Jeffries - ben.jeffries@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 628936.
Am wybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan Mic Morris Torfaen 10K.