Dathlu Wythnos Natur Cymru gyda digwyddiadau am ddim yn yr awyr agored

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Gorffennaf 2026
Wales Nature Week

Gwahoddir trigolion i ddod i gysylltiad o’r newydd â natur yn ystod Wythnos Natur Cymru (4–12 Gorffennaf) trwy raglen o ddigwyddiadau am ddim sy'n cael eu cynnal ar draws Torfaen.

O sesiynau ioga meddylgar a theithiau cerdded ym myd natur, i arolygon bywyd gwyllt, storïa a gweithgareddau cadwraeth ymarferol.

Mae'r wythnos yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob oed archwilio'r amgylchedd naturiol ar stepen eu drws, dysgu amdano a’i fwynhau.

Mae'r rhaglen yn dechrau ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf gyda Ioga ym Myd Natur ym Maenor Llanyrafon. Gall cyfranogwyr fwynhau dwy sesiwn ioga ysgafn, synhwyraidd wedi'u hysbrydoli gan ganeuon adar a synau'r byd naturiol.

Ddydd Llun 6 Gorffennaf, gwahoddir trigolion i ymuno â Thaith Gerdded Sylwi ar Natur ym Mharc Pont-y-pŵl, lle bydd taith dywys yn canolbwyntio ar werthfawrogi golygfeydd, synau a gweadau natur.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau ddydd Mercher 8 Gorffennaf, gan gynnwys Storïa yn y Goedwig ym Mharc Pont-y-pŵl. Bydd y sesiwn yn tynnu ar chwedlau a llên gwerin Cymru, ac yn dod â natur yn fyw trwy storïa yn y goedwig.

Ar 8 Gorffennaf, gall y rheiny sydd wrth eu bodd â bywyd gwyllt ddarganfod byd anhygoel y gwyfynod yn Gwyfynod Gwych yng Ngwarchodfa Natur Leol Henllys, gan ddysgu mwy am rywogaethau lleol a'u hecoleg.

Gall y rheiny sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ymarferol i fyd natur gymryd rhan yn Ymgyrch Clec i Jac ym Mhyllau Llantarnam, gan helpu i fynd i'r afael â phlanhigion goresgynnol Jac y Neidiwr a chefnogi bioamrywiaeth leol.

Mae'r dathliadau'n parhau ddydd Gwener 10 Gorffennaf gyda Hyfforddiant Arolygu ac Adnabod y Gardwenynen yng Ngwarchodfa Natur Leol Llwyncelyn. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn dysgu sut i adnabod ac arolygu rhywogaethau prin y gacwenynen a chyfrannu at ymdrechion cadwraeth.

Gall meddyliau creadigol hefyd gael ysbrydoliaeth o'r byd naturiol yn Bywyd Gwyllt mewn Dyfrlliwiau, sef sesiwn beintio ar thema natur sy'n addas i unrhyw un sy'n dymuno mynegi eu gwerthfawrogiad o fywyd gwyllt trwy gelf.

Nid yw'r rhaglen o weithgareddau ar thema natur yn gorffen gydag Wythnos Natur Cymru. Gall trigolion hefyd edrych ymlaen at Ewch yn Wyllt, a fydd yn cael ei gynnal ym Mharc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf, gan gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl o bob oed ddod i gysylltiad â natur a dysgu am fywyd gwyllt lleol.

Meddai Veronika Brannovic, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol: "Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle gwych i bobl ddod i gyswllt â natur, darganfod bywyd gwyllt lleol a dysgu mwy am y cynefinoedd pwysig sydd gennym ar draws Torfaen.

"Efallai eich bod yn ymddiddori mewn cadwraeth, lles, creadigrwydd neu, yn syml, treulio amser yn yr awyr agored. Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, mae gennym rywbeth y gall pawb ei fwynhau."

Mae'r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim, ond argymhellir eich bod yn cadw’ch lle ymlaen llaw.

Cadwch eich lle ar Cysylltu Torfaen.

I'r rheiny sydd wedi’u hysbrydoli i barhau â'u cyswllt â natur ar ôl Wythnos Natur Cymru, mae rhaglen Stiwardiaid Natur newydd gael ei lansio yn Nhorfaen.

Mae'r fenter wirfoddol yn annog pobl i chwarae rhan weithredol wrth ofalu am fywyd gwyllt lleol a mannau gwyrdd a chwrdd â phobl eraill sy'n rhannu angerdd am yr amgylchedd naturiol ar yr un pryd.

Mae’r rhaglen â’i gwreiddiau yn ysbryd Bargen Torfaen, a’i nod yw dod â chymunedau at ei gilydd, meithrin balchder mewn bröydd lleol a helpu i greu dyfodol gwyrddach ac iachach i'r Fwrdeistref.

Ariennir digwyddiadau Wythnos Natur Cymru a'r rhaglen Stiwardiaid Natur gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol trwy'r prosiect Planed Iach, Pobl Iach.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/07/2026 Nôl i’r Brig