Penodiadau gwleidyddol yn y Cyfarfod Blynyddol

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 26 Mai 2026
Councillor Anthony Hunt

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Torfaen heddiw, cadarnhawyd penodiadau gwleidyddol allweddol i’r cabinet, pwyllgorau’r cyngor a chyrff allanol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Gweithred gyntaf y Cyfarfod  oedd penodi Aelod Llywyddol a Dirprwy Aelod Llywyddol newydd i gadeirio cyfarfodydd y cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2026/7. 

Ail-etholwyd y Cyng. Rose Seabourne yn Aelod Llywyddol y cyngor ac ail-etholwyd y Cyng. David Williams yn Ddirprwy Aelod Llywyddol.

Yn dilyn enwebiadau ar gyfer swydd Arweinydd y Cyngor, derbyniodd y Cyng. Anthony Hunt bleidlais y mwyafrif a chafodd ei ail-ethol yn briodol. Bydd gan yr Arweinydd gyfrifoldeb hefyd am gyllid strategol a gwasanaethau ariannol.

Cafodd y Cyng. Richard Clark ei ailethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn dal y portffolio ar gyfer Plant, Teuluoedd ac Addysg.

Rhestr lawn penodiadau i'r cabinet yw:

  • Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai – Y Cyng. David Daniels
  • Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg – Y Cyng. Richard Clark
  • Aelod Gweithredol dros Gymunedau – Y Cyng. Fiona Cross
  • Aelod Gweithredol dros Lywodraeth Gorfforaethol ac Adnoddau – Y Cyng. Peter Jones
  • Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd – Y Cyng. Mandy Owen
  • Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio – Y Cyng. Joanne Gauden
  • Aelod Gweithredol, Gwastraff a Chynaliadwyedd – Y Cyng. Sue Morgan

Penodwyd y cadeiryddion canlynol i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu: 

  • Pwyllgor TaCh yr Economi a’r Amgylchedd – Y Cyng. Linda Clarkson
  • Pwyllgor TaCh Addysg – Y Cyng. Rose Seabourne
  • Pwyllgor TaCh Oedolion a Chymunedau – Y Cyng. Mark Jones
  • Pwyllgor TaCh Plant a Theuluoedd – Y Cyng. Alan Slade 
  • Pwyllgor TaCh Trawsbynciol Adnoddau a Busnes – Y Cyng. David Williams

Penodwyd aelodau hefyd i gadeirio’r pwyllgorau statudol canlynol:

  • Pwyllgor Cynllunio – Y Cyng. Norma Parrish
  • Pwyllgorau Trwyddedu Statudol a Chyffredinol – Y Cyng. Steve Evans
  • Pwyllgor Pensiynau – Y Cyng. Nathan Yeowell
  • Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Y Cyng. Steve Evans

Wrth dderbyn ei benodiad yn Arweinydd Cyngor Torfaen, dywedodd y Cyng. Anthony Hunt: "Rydw i o’r farn gref mai berf yw arweinyddiaeth, nid enw, rydym ni i gyd yn arweinwyr yn y siambr yma, ac mae gennym oll ran i’w chwarae wrth arwain y cyngor a chymunedau yn yr heriau yr ydym yn eu hwynebu."

Ychwanegodd y Cyng. Hunt: "Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r cyhoedd a’r grwpiau cymunedol am eu gwaith gyda ni, yn enwedig pawb sy’n gwirfoddoli yn ein cymunedau. Mae Bargen Torfaen yn rhan bwysig o’n strategaeth i weithio gyda’n cymunedau, yn hytrach na gwneud pethau i gymunedau. Felly, diolch i’r bobl ymroddedig sy’n gweithio’n wirfoddol yn ein cymunedau am y gwahaniaeth yr ydych yn ei wneud ochr yn ochr â’n staff a’n partneriaid i wella bywydau."  

Mae’r 95 sedd ar amryw bwyllgorau ac is-bwyllgorau’n cael eu dyrannu ar sail cydbwysedd gwleidyddol. Mae’r Grŵp Llafur mwyafrifol yn cael 67 sedd, gyda 12 i’r grŵp annibynnol, 8 i Grŵp Reform ac 8 sedd i grŵp Annibynnol Torfaen.

Mae'r Aelodau Gweithredol canlynol wedi'u penodi'n hyrwyddwyr o blith Aelodau:

  • Y Cyng. David Daniels – Hyrwyddwr Cyngor Cyfeillgar i Oedran
  • Y Cyng. Peter Jones - Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Y Cyng. Anthony Hunt - Hyrwyddwr Gwrthdlodi
  • Y Cyng. Richard Clark - Hyrwyddwr Pobl Ifanc

Penodwyd yr hyrwyddwyr canlynol o blith Aelodau hefyd:

  • Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau – Y Cyng. Steve Evans 
  • Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog – Y Cyng. Gaynor James
  • Hyrwyddwr Gofalwyr – Y Cyng. David Daniels
  • Hyrwyddwr Cynaliadwyedd – Y Cyng. Stuart Ashley
  • Hyrwyddwr Treftadaeth y Byd – Y Cyng. Janet Jones
  • Clefyd Niwronau Echddygol (MND) – Y Cyng. Giles Davies
  • Hyrwyddwr Dementia– Y Cyng. Mandy Owen
  • Hyrwyddwr Cymuned Sipsiwn a Theithwyr – Y Cyng. Gaynor James
  • Hyrwyddwr Iechyd Meddwl – Y Cyng. Nick Byrne
  • Trais yn erbyn menywod a merched – Y Cyng. Jayne Watkins

Gwnaeth y cyngor enwebiadau hefyd i gyrff allanol gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Tai Cymunedol Bron Afon, Ymddiriedolaeth Camlas Aberhonddu, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/05/2026 Nôl i’r Brig