Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Mai 2026
Mae ystafell ddosbarth awyr agored newydd, sydd wedi'i chynllunio i wella llesiant disgyblion, a phresenoldeb, wedi agor yn swyddogol yn Ysgol Gorllewin Mynwy.
Agorwyd caban pren ‘Nature Nook’, a ariannwyd trwy grant o £10,000 gan yr elusen i blant Wooden Spoon, yn rhan o safle Ysgol y Goedwig yr ysgol sy'n tyfu drwy’r amser.
Agorwyd yr adeilad yn swyddogol heddiw gan gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a Chlwb Rygbi Pont-y-pŵl, Graham Price, llysgennad dros yr elusen.
Mae'r lle newydd yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen Ysgol y Goedwig yr ysgol, sydd wedi bod yn rhedeg ers sawl blwyddyn bellach ac sydd wedi helpu i wella presenoldeb, yn unol â'r ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas.
Ers cymryd rhan, mae disgybl o Flwyddyn 7, Georgina, wedi gwella’i phresenoldeb 11.2%, gan dynnu sylw at effaith gadarnhaol dysgu yn yr awyr agored.
Meddai, "Rwy'n teimlo, pan ddechreuais i, roeddwn i’n dueddol o fynd yn grac ac roedd hynny’n broblem, ac mae hyn wedi fy helpu i dawelu, ac rwy'n teimlo'n well oherwydd hynny. Mae dysgu yn yr awyr agored yn wych a dydw i ddim yn ofn chwilod mwyach!"
Meddai disgybl o Flwyddyn 8, Eoghan, y mae ei bresenoldeb wedi gwella 10.1%, "Roeddwn i'n hoffi bod allan yn yr awyr agored ar gyfer Ysgol y Goedwig. Fy hoff ran oedd adeiladu'r denau."
Bydd y cyfleuster newydd yn galluogi staff i ddysgu yn yr awyr agored trwy gydol y flwyddyn, gan gefnogi ymagwedd fwy hyblyg at addysg. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys coginio awyr agored, garddio, prosiectau ymarferol, a chymwysterau Agored Cymru.
Yn ôl yr ymchwil, gall dysgu yn yr awyr agored wella’r gallu i ganolbwyntio, lleihau lefelau straen a chefnogi llesiant yn gyffredinol.
Mae'r sesiynau’n helpu disgyblion i reoli gorbryder a magu hyder, ac yn eu cefnogi i ddelio â phrofedigaeth a newidiadau gartref.
Cynhelir sesiynau ar ôl ysgol hefyd i roi cyfleoedd i rieni gryfhau eu perthynas â'r ysgol.
Meddai Emma Jordan, Pennaeth Ysgol Gorllewin Mynwy:
"Bydd y cyfleusterau newydd yn caniatáu i ddisgyblion elwa ar ddysgu yn yr awyr agored trwy gydol y flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd yng Nghymru. Mae Ysgol y Goedwig yn ychwanegiad gwych i'n cwricwlwm sydd wedi llwyddo yn barod i ymgysylltu nifer fawr o ddysgwyr.
"Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i Michael Allen, ein Mentor Cymorth Llesiant, am ei waith diflino yn datblygu'r ddarpariaeth hon, a hefyd i'r holl gyfranwyr a staff sydd wedi ein cefnogi i lwyddo gyda’r cais hwn. Mae wedi bod yn ymdrech ysgol-gyfan go iawn".
Mae elusen Wooden Spoon yn cefnogi prosiectau sy'n gwella bywydau plant a phobl ifanc difreintiedig, gan gynnwys y rheiny sy'n byw gydag anableddau neu sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg.
Mae'r ysgol hefyd wedi sicrhau £1,000 arall gan Learning through Landscapes, i ddarparu offer a 30 awr o hyfforddiant i staff i gefnogi dysgu yn yr awyr agored sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:
"Mae'r dull arloesol hwn yn Ysgol Gorllewin Mynwy yr union beth rydyn ni am ei weld, ac mae’n rhoi llesiant wrth galon y dysgu.
"Mae'n amlwg fod y ddarpariaeth hon yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan helpu pobl ifanc i deimlo'n fwy cartrefol yn yr ysgol a gwella presenoldeb. Mae'n enghraifft wych o sut y gall ysgolion feddwl tu allan i'r bocs i gefnogi eu dysgwyr i ffynnu."