Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Mai 2026
Mae bron i 1,000 o redwyr wedi cofrestru yn barod ar gyfer Ras 10K Torfaen Mic Morris eleni, wrth i un o'r rasys cyflymaf yn y calendr rhedeg ddychwelyd yr haf hwn.
Cynhelir y digwyddiad poblogaidd ddydd Sul 12 Gorffennaf, a bydd y rhedwyr yn dechrau o Flaenafon am 9am cyn gorffen ym Mharc Pont-y-pŵl erbyn tua 11am.
Mae'r ras yn agored i redwyr o bob gallu, ac yn denu cyfranogwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt, gyda phob cystadleuydd yn cael medal a nwyddau i gofio am y digwyddiad.
Bydd yr elw o'r ras yn cefnogi Cronfa Ymddiriedolaeth Chwaraeon Mic Morris, gan helpu athletwyr ifanc yn Nhorfaen i gyflawni eu huchelgeisiau chwaraeon.
Cau ffyrdd
Er mwyn sicrhau diogelwch y rhedwyr, bydd nifer o ffyrdd ar gau dros dro ar hyd y llwybr:
- Blaenafon i Abersychan (cyffordd yr A4043/B4246): 8:00am – 10:00am
- Abersychan – Old Road i Hospital Road: 9:00am – 10:30am
- Hospital Road i Park Road (Byddin yr Iachawdwriaeth): 9:15am – 10:45am
Bydd ffyrdd ochr yn dal i fod ar agor, ond ni chaniateir cerbydau ar lwybr y ras yn ystod y digwyddiad. Bydd mynediad i'r gwasanaethau brys ar bob adeg.
Meddai Ben Jeffries, Swyddog Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd Cyngor Torfaen:
"Gyda bron i 1,000 o redwyr wedi cofrestru yn barod, mae'r digwyddiad eleni yn addo bod yn ddiwrnod gwych. Efallai eich bod chi’n gobeithio am eich amser personol gorau neu'n cymryd rhan am y tro cyntaf. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, mae'n gyfle gwych i fod yn rhan o un o'r rasys 10K cyflymaf yn y fro.
"Rydyn ni wedi gweithio'n galed i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion trwy gau ffyrdd am gyfnodau byrrach, a sicrhau bod marsialiaid ar hyd y llwybr a thrwy gydol y ras i gadw pawb yn ddiogel. Diolch i'r gymuned am eich cefnogaeth barhaus i sicrhau bod y digwyddiad yn un mor llwyddiannus."
Cynghorir trigolion sy’n gorfod teithio, er enghraifft i apwyntiadau yn yr ysbyty neu ar gyfer gwyliau neu gyfrifoldebau gofalu, i gysylltu â Chyngor Torfaen cyn gynted â phosibl ar 01633 628936.
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i 10K Torfaen Mic Morris neu cysylltwch â ben.jeffries@torfaen.gov.uk