Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Mai 2026
Mae gan ddynion sy’n byw yn rhai o ardaloedd Torfaen ddisgwyliad oes iach cyfartalog o 54 mlwydd oed.
Er mwyn helpu i wella hyn, mae tîm iechyd, chwaraeon a ffitrwydd y Cyngor yn gofyn i ddynion rhwng 40 a 60 oed ddweud pa ymarfer corff maen nhw’n hoffi ei wneud, beth sy’n eu hysgogi a beth sy’n eu rhwystro.
Yna, bydd eu hadborth yn cael ei ddefnyddio i helpu i lunio siâp rhaglen iechyd a llesiant gymunedol newydd.
I gymryd rhan - cliciwch ar y ddolen isod i lenwi holiadur byr erbyn dydd Mawrth 30 Mehefin.
Meddai Ben Jeffries, swyddog datblygu chwaraeon: "Rydyn ni'n gwybod bod dynion yn eu 40au a'u 50au yn gallu wynebu straen o sawl math, ond yn aml nhw sydd leiaf tebygol o gael cymorth traddodiadol. Mae'r arolwg hwn yn golygu gwrando yn gyntaf, a deall beth mae pobl ei eisiau a’i angen go iawn yn eu cymunedau.
"Trwy weithio gyda dynion a grwpiau lleol, gallwn greu rhaglen hirdymor sy'n teimlo'n berthnasol ac yn hygyrch, gan ddod â phobl at ei gilydd i gefnogi ei gilydd a gwella’u llesiant corfforol a’u llesiant yn gyffredinol."
Bydd y rhaglen newydd yn dilyn llwyddiant rhaglen Os Ei Di Af I y Cyngor, i fenywod, a'r fenter Ffynnu, i ddynion a menywod dros 60 oed.
Mae 400 o fenywod wedi cymryd rhan yn rhaglen Os Ei Di Af I ers iddi gael ei lansio yn 2017, a rhai ohonynt wedi mynd ymlaen i sefydlu eu dosbarthiadau ymarfer corff eu hunain.
Mae tua 300 o bobl wedi cymryd rhan yn y dosbarthiadau Ffynnu ers i’r rhaglen ddechrau yn 2024.
Yn ôl yr ymchwil, gall heriau iechyd fel straen, hwyliau isel, gorflinder a chyflyrau hirdymor effeithio ar ddynion yn eu 40au a'u 50au, yn hytrach nag yn hwyrach mewn bywyd.
Mae data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cysylltu unigrwydd at iechyd meddwl gwael, llesiant is a llai o gydnerthedd, yn enwedig ymhlith dynion, sy'n aml yn llai tebygol o siarad yn agored neu geisio cymorth.
I gael gwybodaeth am grwpiau chwaraeon neu ymarfer corff lleol, ewch i Cysylltu Torfaen.