Lansio cystadleuaeth cerdyn llyfrgell

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Mai 2026
Library competition

Mae yna wahoddiad i blant a phobl ifanc ar draws Torfaen roi eu creadigrwydd ar brawf trwy ddylunio cerdyn newydd ar gyfer Llyfrgelloedd Torfaen.

Mae Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd Torfaen wedi lansio'r gystadleuaeth, gan alw ar blant rhwng 4 ac 16 oed sy'n byw yn Nhorfaen neu sy’n mynychu ysgol yn Nhorfaen, i greu darn o waith celf gwreiddiol wedi'i ysbrydoli gan y thema 'Beth mae Llyfrgelloedd yn ei olygu i chi?'.

Bydd yr enillydd yn cael Tocyn Llyfr Cenedlaethol gwerth £50, a bydd eu dyluniad yn cael ei argraffu'n broffesiynol fel cerdyn swyddogol Llyfrgelloedd Torfaen ar gyfer aelodau sy’n 16 oed neu’n iau.

Gall cystadleuwyr greu gwaith wedi’i ddarlunio â llaw neu waith digidol, gan ddefnyddio lliwiau llachar a dyluniadau syml sy'n dal i fod yn glir pan fydd eu maint yn newid. Dylid creu’r gwaith celf ar bapur neu gerdyn tirlun A4.

Gallwch fynd â’ch dyluniadau i unrhyw lyfrgell yn Nhorfaen neu eu hanfon trwy e-bost i cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Rhaid bod enw’r plentyn ar bob cais, ynghyd â’i oedran, ysgol a manylion cyswllt rhiant neu ofalwr.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r gwaith yw dydd Llun 22 Mehefin 2026, a bydd y gwaith yn cael ei feirniadu tua diwedd Mehefin.

Mae'r gystadleuaeth ddiweddaraf hon yn dilyn ailenwi'r gwasanaeth yn ddiweddar i Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd Torfaen, gan adlewyrchu’r amrywiaeth ehangach o wasanaethau cymunedol a gynigir ganddo.

Meddai Neil Trembath, Rheolwr Llyfrgelloedd Cyngor Torfaen:

"Dyma gyfle cyffrous i greu cerdyn llyfrgell plant cyntaf Torfaen. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr holl geisiadau lliwgar, llachar. Mae yna dalent anhygoel allan yna a gallwn ni ddim aros i weld dyluniadau pawb.

"Mae llyfrgelloedd yn parhau i ehangu eu rôl wrth gefnogi cymunedau ac mae ein llyfrgelloedd yn esblygu i fod yn hybiau deinamig lle mae pobl yn archwilio, yn creu ac yn meithrin cysylltiadau’.

Mae manylion llawn y gystadleuaeth a'r amodau a thelerau ar gael yn unrhyw un o lyfrgelloedd Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/05/2026 Nôl i’r Brig