Llais Rhyngwladol i Fforwm Ieuenctid Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 12 Mai 2026
Screenshot 2026-05-12 152159

Mae aelodau o Fforwm Ieuenctid Torfaen wedi cael eu cyfweld yn rhan o adroddiad newyddion Ewropeaidd am bleidleisiau i bobl ifanc 16 oed.

Fe fu’r newyddiadurwraig Katrien Vanderschoot, o ddarlledwr gwladol Gwlad Belg VRT Radio, yn siarad ag aelodau’r Fforwm yn y Ganolfan Ddinesig, ym Mhont-y-pŵl, yr wythnos ddiwethaf, cyn Etholiadau’r Senedd.

Yn ystod ei hymweliad, siaradodd Katrien â'r bobl ifanc am eu profiadau o gymryd rhan mewn penderfyniadau lleol a'u paratoadau at bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd.

Mae Cymru yn un o'r ychydig wledydd lle mae pobl ifanc ym gallu cofrestru i bleidleisio o 14 oed a phleidleisio yn 16 oed, gan sicrhau bod trigolion ifanc Torfaen ar flaen y gad o ran ymgysylltiad democrataidd pobl ifanc.

Mae Gwlad Belg hefyd yn caniatáu i bobl ifanc 16 oed bleidleisio yn etholiadau'r UE, ond mae pleidleisio yn orfodol, yn wahanol i Gymru.

Meddai Katrien: "Mae gwybodaeth ac angerdd pobl ifanc Torfaen wedi creu argraff arna’ i. Dim ond rhan o'r stori yw rhoi'r hawl i bobl ifanc 16 oed bleidleisio - mae'r un mor bwysig cefnogi pobl ifanc i ddeall yr hawl honno a’i harfer."

Ychwanegodd aelod o'r Fforwm, Harry Legge: "Roedd yn gyffrous bod yn rhan o rywbeth a fydd i'w weld mewn gwlad arall. Mae'n dangos bod lleisiau pobl ifanc Torfaen yn bwysig y tu hwnt i'n hardal leol."

Yn rhan o'r ymweliad, fe fu aelodau'r Fforwm yn creu fideo TikTok am eu profiadau ac yn esbonio pam mae pleidleisio’n bwysig iddyn nhw yn rhan o gyfres sy'n canolbwyntio ar y ffordd y mae gwledydd gwahanol yn cefnogi cyfranogiad ieuenctid mewn democratiaeth.

Mae'r ymweliad yn tynnu sylw at ymrwymiad parhaus y Cyngor i gefnogi cyfranogiad ieuenctid a grymuso pobl ifanc i chwarae rhan weithgar wrth lunio siâp eu cymunedau.

Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2026 Nôl i’r Brig