Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 12 Mai 2026
Mae ysgol gynradd newydd sbon gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei harolygiad cyntaf gan Estyn.
Canmolodd arolygwyr y cwricwlwm eang a diddorol yn Ysgol Gynradd Maendy, Cwmbrân, a agorodd i ddisgyblion fis Mehefin diwethaf, ac amlygon nhw gynnydd disgyblion mewn darllen, cyfathrebu a'r Gymraeg.
Dywedon nhw fod y cwricwlwm "Magic" wedi helpu i ddatblygu "hyder, annibyniaeth a pharch at eraill" ymhlith disgyblion a dywedon nhw fod ystafelloedd dosbarth a mannau awyr agored yr ysgol yn "amgylcheddau deniadol, trefnus" a oedd yn annog annibyniaeth.
Cydnabu’r arolygwyr hefyd gweledigaeth glir y pennaeth sydd wedi'i datblygu gyda staff, disgyblion a theuluoedd.
Dywedodd y Pennaeth, Emma Payne: "Mae'r adroddiad llwyddiannus hwn yn adlewyrchiad clir o waith caled, proffesiynoldeb ac ymroddiad ein staff a'n llywodraethwyr, agweddau cadarnhaol ac ymdrechion ein plant i gyd, a'r gefnogaeth gref yr ydym yn ei chael gan ein rhieni a'n gofalwyr, a gan gymuned ehangach yr ysgol.
"Rwy'n hynod falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gryfderau ein hysgol ac yn cydnabod yr ethos gofalgar, cynhwysol sy'n gwneud Ysgol Gynradd Maendy yn lle mor arbennig i ddysgu a thyfu ynddi."
Argymhellodd yr arolygwyr fod gallu arweinyddol yn cael ei gryfhau i gefnogi gwelliant parhaus, a bod disgyblion yn cael mwy o gyfleoedd i ddatblygu a defnyddio sgiliau rhifedd a digidol ar draws y cwricwlwm.
Agorwyd yr ysgol gynradd a'r ganolfan gofal plant gwerth £17.1 miliwn, a adeiladwyd ar safle hen Ysgol Gynradd Maendy, yn swyddogol ym mis Mawrth.
Dyma'r ysgol sero net gyntaf yn Nhorfaen ac mae'n cynnwys 16 o ystafelloedd dosbarth modern, canolfan anghenion dysgu ychwanegol, parthau chwarae awyr agored unigol a maes chwarae. Mae Canolfan Gofal Plant Cymunedol newydd Maendy’n darparu dwy ystafell gofal plant, meithrinfa Dechrau'n Deg ac ystafell gymunedol.
Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Torfaen a Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.