Grŵp codi pwysau newydd yn rhoi hwb i iechyd dynion

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Mai 2026
Thrive Mens weightlifting

Mae grŵp codi pwysau newydd i ddynion yn helpu trigolion hŷn i wella’u ffitrwydd corfforol, eu symudedd a’u llesiant meddyliol trwy sesiynau hyfforddi wythnosol a chymorth cymheiriaid.

Ar hyn o bryd mae tua 15 o ddynion yn mynychu Clwb Codi Pwysau SSC ym Mhont-y-pŵl bob bore dydd Iau, gan gymryd rhan mewn ymarferion pwysau rhydd, ymarferion cardio a hyfforddiant nerth wedi'i deilwra.

Lansiwyd y grŵp yn rhan o raglen Ffynnu Cyngor Torfaen, sy'n cefnogi trigolion sy’n 60 oed neu’n hŷn i gadw'n egnïol yn eu cymunedau, gan helpu i wella iechyd a llesiant hirdymor.

Arweinir y sesiynau gan yr hyfforddwr ffitrwydd a'r perchennog busnes Meghan Dixon, sy'n dylunio rhaglenni i ddiwallu anghenion unigolion a’u lefelau gallu.

Ymhlith y rheiny sy'n mynd i’r sesiynau mae Jeff Jones, 81, o Bont-y-pŵl, a ymunodd â'r rhaglen yn dilyn cyfres o heriau iechyd.

Meddai Jeff: "Dechreuodd fy iechyd ddirywio tua 14 mlynedd yn ôl ar ôl dioddef sawl trawiad ar y galon. Pan fu farw fy ngwraig yn 2022, roeddwn i mewn lle gwael," meddai.

"Cefais fy nghyflwyno i’r prosiect Ffynnu i ddynion, ac mae wedi helpu fy ffitrwydd a'm ffordd o feddwl. Rydw i nawr yn teimlo'n llawer mwy positif am fywyd, ac mae bod o gwmpas criw gwych o ddynion yn help mawr."

Penderfynodd Mike Hazard, 71 oed, o Gwmbrân, sydd bellach wedi ymddeol, ymuno â'r clwb ym mis Ionawr i wella’i symudedd ar ôl blynyddoedd o beidio â bod yn actif. Meddai: "Dechreuais i fynychu'r grŵp nerth a ffitrwydd ym mis Ionawr ar ôl ffordd o fyw eisteddog.

"Mae ein hyfforddwraig, Meghan, yn broffesiynol iawn ac yn canolbwyntio ar adeiladu ein nerth craidd, cydbwysedd a ffitrwydd yn gyffredinol. Rydw i wedi gweld gwelliant mawr yn fy iechyd a llesiant yn gyffredinol.

"Bonws ychwanegol yw'r ochr gymdeithasol gan ein bod ni’n cwrdd am goffi ar ôl hyfforddi ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato."

Meddai Ben Jeffries, Swyddog Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd Cyngor Torfaen:

"Mae wedi bod yn wych gweld llwyddiant y grŵp. Rydyn ni'n gweld manteision corfforol clir yn y ffordd y mae'r dynion yn byw eu bywydau bob-dydd, ond hefyd manteision cymdeithasol cryf.

"Maen nhw wedi meithrin cwlwm go iawn ers mis Tachwedd, gan gefnogi ei gilydd yn y gampfa, cwrdd am goffi a chadw mewn cysylltiad trwy eu grŵp WhatsApp.

"Mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu rôl y Cyngor fel galluogwr, yn helpu cymunedau i gymryd yr awenau wrth gynnal gweithgareddau a chefnogi ei gilydd. Dyma'n union beth rydyn ni'n anelu at ei gyflawni gyda Bargen Torfaen – gyda'r Cyngor, busnesau a chymunedau'n cydweithio i wella canlyniadau iechyd."

Mae'r grŵp dynion yn dilyn llwyddiant dosbarth codi pwysau menywod Ffynnu a lansiwyd y llynedd yn yr un lleoliad.

Mae'r menywod bellach yn rhedeg y grŵp yn annibynnol ac ers hynny maent wedi trefnu teithiau dydd a chyfarfodydd cymdeithasol rheolaidd, gan helpu i gryfhau cyfeillgarwch a lleihau ynysu cymdeithasol.

Gall dynion sy'n dymuno cymryd rhan fynychu'r grŵp codi pwysau bob dydd Iau rhwng 10am a 11am. Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges trwy e-bos i ben.jeffries@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 628963.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/05/2026 Nôl i’r Brig