Caffi newydd i daclo unigrwydd a hybu lles

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17 Mehefin 2026
Mindful Munch cafe

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd, rydyn ni’n dathlu'r gwirfoddolwyr a'r mudiadau cymunedol sy'n helpu pobl i deimlo cysylltiad a chefnogaeth ac i deimlo’n llai unig, gan gryfhau llesiant a chydnerthedd cymunedol ar draws Torfaen, yn unol â Bargen Torfaen.

Mae caffi cymunedol newydd yng Nghwmbrân yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd cymdeithasol a gwella lles a dod â phobl ynghyd mewn amgylchedd croesawgar, cefnogol.

Agorodd Caffi Mindful Munch, yn Neuadd Gymunedol Pont-rhyd-yr-ynn, ym Mawrth ac fe’i sefydlwyd gan ddwy fam, Samantha Othen a Sarah Jones, ar ôl iddyn nhw weld angen cynyddol am gymorth iechyd meddwl hygyrch yn y gymuned.

Cyfarfu’r ddwy ar gwrs busnes Springboard Torfaen yn 2025 a gwireddon nhw uchelgais ar y cyd i greu lle i bobl gysylltu, rhannu profiadau a chael hyd i gymorth mewn lle nad yw’n glinigol.

Mae’r caffi sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am - 3pm, yn croesawu tua 250 o ymwelwyr pob wythnos, gan gynnig prydiau fforddiadwy, cefnogaeth anffurfiol gan gymheiriaid a dyddiad â themâu fel ‘Mindful Mingling’, a grŵp mamau a babanod.

Dywedodd Samantha, sydd â chefndir mewn busnes a phrofiadau o bryder ac iechyd meddwl gwael o ganlyniad i’r menopôs a ysbrydolodd ei hangerdd dros gefnogi eraill :

“Roedden ni am greu lle diogel i’r rheiny sy’n ymgodymu â’u hiechyd meddwl, ble maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn dod ynghyd, boed ar gyfer sgwrs, cefnogaeth, neu, yn syml, i deimlo’n llai unig.”

Ychwanegodd Sarah: “Mae wedi bod yn wych gweld y gymuned yn ymateb mewn ffordd mor gadarnhaol, ac mae gyda ni lawer mwy i ddod.”

Gan adeiladu ar ei lwyddiant, mae’r caffi wedi ymestyn ei gynnig i gynnwys Companions in Loss, grŵp cymorth galar misol.

Ar ail ddydd Mawrth pob mis, mae’r grŵp yn darparu lle cefnogol i unrhyw un sy’n ymdopi gyda cholli rhywun annwyl, boed hynny’n ddiweddar neu beth amser yn ôl.

Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth Tîm Creu Capasiti Cyngor Torfaen, a helpodd i sicrhau dros £8,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i dalu am oleuadau newydd ynni-effeithlon, nenfwd crog gydag inswleiddio a gosod drws tân a gwaith adeiladu cyffredinol.

Helpodd buddsoddiad ychwanegol o £4,000 gan gronfa Food 4 Growth y cyngor iddyn nhw dalu am gegin ac offer newydd, ac mae’r caffi hefyd wedi ymddangos yng nghyfeiriadur rhwydwaith Bwyd Da sydd newydd ei lansio.

Mae’r neuadd ei hun yn gartref i Glwb Pêl-droed Pontnewydd United a roddodd ganiatâd i’r caffi weithredu ar y safle, ac maen nhw hefyd wedi helpu gyda’r datblygiad, gan ei drawsnewid o fod yn gyfleuster nad oedd yn cael ei ddefnyddio digon, i fod yn ganolfan amlbwrpas, fywiog i’r gymuned.

Dywedodd David Leech, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Torfaen:

“Dyma enghraifft wych o bobl leol ar flaen y gad wrth lunio gwasanaethau sydd wir yn diwallu anghenion eu cymuned.

“Trwy greu lle croesawgar ble gall trigolion ddod ynghyd, cael cefnogaeth a datblygu cysylltiadau, mae’r caffi’n helpu i daclo unigrwydd a gwella lles yn yr ardal.

“Mae’n adlewyrchu uchelgais Bargen Torfaen, gyda thrigolion, sefydliadau a grwpiau cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd i greu cymunedau mwy gwydn."
Diwygiwyd Diwethaf: 17/06/2026 Nôl i’r Brig