Grŵp iechyd newydd yn guriad calon y gymuned

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2026
Dickie Tickers

Mae grŵp newydd sy’n cynnig cymorth gan gymheiriaid i bobl sydd â chyflyrau'r galon, yn helpu trigolion yng Nghwmbrân i gadw'n actif, cadw mewn cysylltiad, a chael hyd i wybodaeth.

Sefydlwyd grŵp Dickie Tickers ym mis Mawrth, ac mae bellach yn denu tua 15 o bobl bob wythnos i Glwb Cymdeithasol Llanyrafon.

Mae'r grŵp yn dod â phob sydd ag ystod o gyflyrau cardiofasgwlaidd at ei gilydd, mewn lleoliad croesawgar, anghlinigol, lle gallant rannu profiadau, cefnogi ei gilydd a meithrin cyfeillgarwch parhaol.

Datblygwyd y fenter yn dilyn gwaith gan Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Cyngor Torfaen, a nododd fod niferoedd uchel o drigolion yn Llanyrafon a Chroesyceiliog yn cael presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau cardiofasgwlaidd.

Yn dilyn ymchwil pellach, tynnwyd sylw at y ffaith bod diffyg cefnogaeth barhaus  i bobl ar ôl iddynt gwblhau rhaglen adsefydlu cardiaidd y GIG.

Gan weithio gyda thîm adsefydlu cardiaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, aeth Tîm Meithrin Gallu Cymunedol Cyngor Torfaen ati i helpu sefydlu'r grŵp, gan ddefnyddio model llwyddiannus a oedd eisoes ar waith ym Margoed.

Mae aelodau fel arfer yn cael eu cyfeirio at y grŵp trwy wasanaethau adsefydlu cardiaidd neu eu meddyg teulu, er, mae’r grŵp yn agored i unrhyw un sydd â chyflwr y galon.

Ers hynny, mae'r grŵp wedi dod yn hunangynhaliol i raddau helaeth, gydag aelodau yn creu eu rhwydwaith WhatsApp eu hunain i gadw mewn cysylltiad, trafod ffyrdd iach o fyw a threfnu gweithgareddau fel teithiau cerdded ysgafn.

Mae Leah Rideout, 53, sydd â nam cynhenid ar y galon,  wedi ymgymryd â rôl wirfoddol o fewn y grŵp. Meddai:

"Cyn ymuno â'r grŵp, doeddwn i ddim yn adnabod llawer o bobl a oedd wedi bod trwy brofiad tebyg. Mae Dickie Tickers wedi rhoi ymdeimlad go iawn o gymuned a chefnogaeth i mi.

“Mae pawb yn deall yr heriau a all godi pan fydd gennych gyflwr y galon, ac mae rhywun yno bob amser i gynnig anogaeth, cyngor neu i fod yno i gael sgwrs gyfeillgar. Mae'n grŵp cadarnhaol iawn, yr wyf yn falch o fod yn rhan ohono, ac mae'n helpu i'n cadw ni’n actif, a byw'n dda."

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae Dickie Tickers yn enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith. Drwy ddod â'r cyngor, partneriaid iechyd a'r gymuned at ei gilydd, rydym wedi helpu i greu rhwydwaith cymorth sydd bellach yn cael ei arwain gan bobl leol eu hunain.

"Mae'n dangos y gwahaniaeth y gall cymunedau ei wneud pan fyddant yn cael eu grymuso i gefnogi ei gilydd i fyw bywydau iachach, mwy cysylltiedig."

Ysgogwyd y prosiect ymchwil trwy gydweithio â Chyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon. 

Os ydych chi'n poeni am iechyd eich calon neu os oes gennych gyflwr cardiaidd, gallwch ymuno â'r grŵp bob dydd Llun, rhwng 11am a 12pm yng Nghlwb Cymdeithasol Llanyrafon.
Diwygiwyd Diwethaf: 15/07/2026 Nôl i’r Brig