Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026
Mae Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Iechyd y Cyhoedd ac Ataliol wedi ymweld â rhaglen ymarfer corff gymunedol ym Mhont-y-pŵl yn rhan o gyhoeddiad am ganllawiau iechyd corfforol.
Treuliodd Nerys Evans, AS, amser gyda'r grŵp codi pwysau 60+ i ddynion yng nghampfa SSC, sy'n helpu i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Yn ôl canllawiau newydd gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU, mae pob math o weithgarwch corfforol yn cyfrannu tuag at y 150 munud o weithgarwch yr wythnos a argymhellir, gan gynnwys cerdded i fyny'r grisiau.
Mae tystiolaeth newydd hefyd yn dangos bod pawb yn elwa ar weithgarwch corfforol waeth beth fo'u lefel ffitrwydd, gan gynnwys y rheiny sydd â chyflyrau hirdymor.
Meddai Ms Evans, a fu yn y sesiwn ddydd Iau: "Mae'r canllawiau newydd hyn yn ein hatgoffa bod pob cam yn cyfrif i wella ein hiechyd. Mae helpu pobl i symud mwy yn ganolog i'n dull gweithredu ataliol ar gyfer iechyd ar draws y llywodraeth."
"Mae'n wych gweld mentrau dan arweiniad y gymuned fel Grŵp Codi Pwysau Ffynnu i Bobl Dros 60, ar waith. Mae wedi dod o'r gymuned, a dyna pam y mae mor boblogaidd ac yn cael ei ddeall cystal. Dyma'r union fath o ddull gweithredu llawr gwlad rydyn ni eisiau ei weld, i helpu pobl i wella’u hiechyd corfforol, cadw'n actif a byw'n dda."
Meddai’r Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Mae'r dystiolaeth yn glir: mae bod yn gorfforol actif yn bwysig i'n hiechyd ac mae pob cam bach yn bwysig. Mynd o wneud dim ymarfer corff o gwbl i wneud rhywfaint yw un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud dros eich iechyd.
"Mae cerdded, beicio, dawnsio, chwaraeon a dringo’r grisiau i gyd yn cyfrif. Mae newid parhaol fwyaf tebygol o ddigwydd pan fyddwch chi’n mwynhau gwneud yr ymarfer corff, pan fydd yn ddefnyddiol neu pan fydd yn rhan o'ch arfer bob-dydd.
"Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf hefyd yn dangos ei bod yn bwysig ein bod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwahanol, gan gynnwys gweithgarwch sy’n cryfhau’r cyhyrau ac ymarferion cydbwysedd a hyblygrwydd."
Mae'r sesiynau codi pwysau i ddynion yn rhan o raglen ffitrwydd Ffynnu y Cyngor i bobl dros 60 oed, ac fe'u sefydlwyd yn dilyn llwyddiant y sesiynau i ferched.
Meddai Ben Jeffries, Swyddog Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd Cyngor Torfaen: "Roedd yn wych croesawu'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol.
"Mae ein dull gweithredu o dan Fargen Torfaen yn helpu i gynyddu mynediad pobl at weithgareddau yn eu hardal leol, diolch i rwydwaith cynyddol o hyrwyddwyr iechyd. Maen nhw’n cael eu cefnogi i ddatblygu eu grwpiau chwaraeon a ffitrwydd eu hunain, ar ôl cymryd rhan yn ein rhaglenni poblogaidd fel Ffynnu i bobl dros 60 oed, Os Ei Di Af I a Torfaen Ewch Am Dro."
Gwyliwch y grŵp codi pwysau i ddynion 60+ wrthi yma.
Am ragor o wybodaeth am holl weithgareddau a digwyddiadau Torfaen sy'n gysylltiedig ag Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd, ewch i wefan Cysylltu Torfaen.