Cymuned yn estyn llaw gyda phrosiect gardd newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026
myst-therapeutic-garden_original

Yn ystod Yr Wythnos Werdd Fawr, rydyn ni’n dathlu gwirfoddolwyr a mudiadau cymunedol sy'n gweithio gyda ni i feithrin natur, taclo newid hinsawdd a gwella llesiant, yn unol â Bargen Torfaen.

Mae man segur ar hen safle Ysgol y Pentref Victoria yn Abersychan ar fin cael ei drawsnewid yn ardd therapiwtig newydd, i gefnogi plant, teuluoedd a'r gymuned ehangach.

Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Bargen Torfaen, sef cynllun newydd sy'n canolbwyntio ar rymuso cymunedau i wella’u hiechyd, eu llesiant a'u cyfleoedd, trwy gydweithio.

Mae Fy Nhîm Cefnogol, sef rhaglen iechyd meddwl ranbarthol sy’n rhan o gynnig therapiwtig Cyngor Torfaen i blant a phobl ifanc sy'n dod i gyswllt â gofal cymdeithasol, wedi dyheu am greu amgylchedd awyr agored sy’n meithrin, yn ei ganolfan yn Victoria.

Bydda yr ardd newydd yn cynnig man pwrpasol lle gall unigolion a theuluoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored sy'n cefnogi eu llesiant.

Bydd cyfleoedd yn agor hefyd i ddefnyddio’r lle at ddibenion cymunedol ehangach, gyda ffocws ar warchod natur ac arferion cynaliadwy, ac ar ddatblygu sgiliau awyr agored ymarferol.

Cyn torri’r tir, cynhaliwyd prynhawn agored i drigolion ym mis Chwefror, gan ganiatáu iddynt gwrdd â'r sefydliadau dan sylw, gweld y cynlluniau arfaethedig, holi cwestiynau a rhannu syniadau.

Cefnogir y prosiect gan Bartneriaeth Garnsychan, sef mudiad sy'n arbenigo ar wirfoddoli a phrosiectau amgylcheddol, a Coedwedd, sef hwb cymunedol nid-er-elw yng Ngarndiffaith sy'n cynnig cwricwlwm eang o weithgareddau i gefnogi llesiant meddyliol, corfforol a chymdeithasol.

Meddai Trevor Harvey, Cyfarwyddwr Rhaglen Coedwedd: "Ar ôl gweithio i elusen iechyd meddwl a oedd yn cynnig gwaith gardd therapiwtig, rydw i wedi gweld â fy llygaid fy hun sut y gall y math hwn o brosiect awyr agored fod o fudd i lesiant unigolion.

"Trwy weithio mewn partneriaeth â Fy Nhîm Cefnogol a Garnsychan, credwn y gall y safle helpu'r gymuned leol ac ehangach go iawn trwy fynd i'r afael â materion fel ynysu cymdeithasol a llesiant meddyliol isel, a chefnogi pobl sy'n NEET i fagu sgiliau sylfaenol a byw bywydau mwy bodlon."

Sicrhawyd gwerth dros £7,000 o offer trwy Grant Pecyn Gardd Cadwch Gymru'n Daclus sy'n cynnwys deunyddiau ar gyfer gwelyau uchel, pwll bywyd gwyllt a thwnnel poli, yn ogystal â phlanhigion, coed ffrwythau ac offer.

Meddai Cariad Warrilow, Rheolwr Data a Pherfformiad Rhanbarthol Fy Nhîm Cefnogol:

"Rydyn ni mor ffodus i gael y lle anhygoel hwn i'n plant, pobl ifanc a theuluoedd, ond mae wedi bod yn bwysig i ni roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol hefyd.

"Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod yr ardd, sydd ar fryn, mor hygyrch â phosibl, ac wrth i'r gwaith fynd rhagddo rydyn ni’n awyddus i redeg prosiectau sy'n cynnwys trigolion lleol ochr yn ochr â'n pobl ifanc, i wella iechyd a llesiant pawb sy'n cymryd rhan."

Disgwylir i'r ardd therapiwtig gymryd cwpl o flynyddoedd i'w datblygu, a bydd cyfleoedd parhaus i drigolion, gwirfoddolwyr a mudiadau cymunedol ymgysylltu â'r prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan anfon neges trwy e-bost  i info@garnsychan.org.uk neu ffonio 01495 775543.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/06/2026 Nôl i’r Brig