Gwersi mewn gofal yn arwain at faethu

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026
Michael Foster Teens

Mae dyn o Bont-y-pŵl wedi gwireddu ei uchelgais o ddod yn ofalwr maeth ar ôl treulio’i yrfa yn cefnogi pobl ifanc.

Daeth Michael, sy’n 31 oed, yn ofalwr maeth cymeradwy gyda Maethu Cymru Torfaen ym mis Ebrill, gyda'r nod o gynnig cartref sefydlog i bobl ifanc yn eu harddegau.

Fel Swyddog Llesiant yn Ysgol Gorllewin Mynwy, mae'n gweithio'n agos gyda phobl ifanc sy'n wynebu heriau fel gorbryder, straen ac anawsterau cymdeithasol ac emosiynol.

Penderfynodd Michael archwilio maethu ar ôl i sgwrs gydag unigolyn ifanc adael argraff barhaol arno.

Meddai: "Yn fy rôl i, rwy'n gweithio gyda llawer o blant sydd mewn gofal. Rhannodd un unigolyn ifanc mai'r unig beth oedden nhw ei eisiau oedd treulio'r Nadolig gyda theulu. Gwnaeth hynny fy nghyffwrdd i a gwneud i fi godi'r ffôn i gael rhagor o wybodaeth am faethu."

Ers cael ei gymeradwyo, mae Michael wedi croesawu plentyn am gyfnodau byrdymor dros y penwythnos yn barod ac mae nawr yn paratoi at gynnig lleoliad tymor hirach.

Mae'n gobeithio y bydd ei brofiad o weithio gyda phobl ifanc yn ei helpu i ddarparu'r gofal gorau posibl ac mae’n croesawu pobl eraill mewn sefyllfa debyg iddo i ystyried maethu.

Ychwanegodd Michael, sy'n sengl: "Ers i fy mam farw, mae gen i lawer mwy o amser i'w roi. Roeddwn i wedi bod yn unig ofalwr iddi ers amser maith, ac felly roedd maethu yn teimlo fel y cam nesaf iawn i fi.

"Roedd y broses asesu yn drylwyr, ond roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi cael fy nghefnogi trwy gydol y broses. Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych ac fe wnaeth yr hyfforddiant Sgiliau i Faethu fy helpu yn fawr iawn i baratoi at y rôl."

Fel arfer, mae'r broses ar gyfer dod yn ofalwr maeth awdurdod lleol yn cymryd tua chwe mis ac mae'n cynnwys hyfforddiant ac asesiadau.

Ledled Cymru, mae angen cannoedd mwy o deuluoedd maeth i helpu i gadw plant lleol yn eu cymunedau, yn agos at eu hysgolion, eu ffrindiau a'u rhwydweithiau cymorth.

Daw gofalwyr maeth o bob cefndir a gallant fod yn sengl, yn briod, yn gweithio'n llawn-amser, yn gweithio’n rhan-amser neu wedi ymddeol.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant a Theuluoedd, "Mae'n wych croesawu Michael fel un o'n gofalwyr maeth diweddaraf. Mae ei stori yn dangos bod gofalwyr maeth yn dod o bob cefndir ac yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol plentyn.

"Nid eich cefndir na’ch galwedigaeth yw’r pethau pwysicaf, ond yr ymrwymiad, yr amynedd a'r tosturi i ddarparu cartref diogel a sefydlog sy’n meithrin."

Gall unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth am faethu gysylltu â Maethu Cymru Torfaen ar 01495 766669 neu fynd i Fostering Teens in Torfaen
Diwygiwyd Diwethaf: 10/07/2026 Nôl i’r Brig