Gofalwyr maeth yn rhannu moment 'torri trwy'

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Mai 2026
Foster Wales Torfaen Lorna

Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, yn agor calon am eu diwrnod, yn gofyn i gael gwylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yn Nhorfaen, maen nhw'n symbol o un peth, datblygiad.

Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiad fel gorbryder, ymneilltuo emosiynol, ymateb yn gryf neu anhawster dilyn rheolau.

Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Faethu Cymru wedi canfod bod tua 80% o ofalwyr wedi cefnogi plant oedd yn dangos ymddygiad fel hyn.

Er bod yr heriau hyn yn gallu bod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod wedi sylwi ar ddatblygiad ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf - yn aml yn canolbwyntio ar eiliadau bach o gysylltiad.

I blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod wedi gwneud cynnydd, maen nhw wedi dechrau teimlo'n ddiogel, maen nhw wedi dechrau gwella, yn teimlo eu bod yn cael eu caru ac yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ar ôl trawma plentyndod.

Mae Lorna, o Flaenafon, yn un o 120 o ofalwyr maeth a ymatebodd i arolwg Maethu Cymru.

Dywedodd: "Dyw maethu ddim bob amser yn heulwen a diwrnodau hawdd.  Mae’n gallu bod yn anodd, yn emosiynol ac yn anrhagweladwy.  Ond yn yr eiliadau cyffredin mae'n wirioneddol bwysig - y teithiau cerdded, yr awyr iach, yr amser tawel gyda'n gilydd.  Gwylio plentyn yn raddol yn teimlo'n ddiogel, yn tyfu mewn hyder ac yn dechrau ffynnu - dyna sy'n gwneud y cyfan yn werth chweil."

Ar ôl rhywfaint o brofiad a derbyn cymorth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd 93% o'r gofalwyr a holwyd eu bod bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.

Mae'r canfyddiadau'n cael eu rhyddhau cyn Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU i godi ymwybyddiaeth o faethu, sy'n dechrau ddydd Llun 11 Mai.

Mae'r thema eleni, ‘Dyma Faethu’, yn taflu goleuni ar brofiadau go iawn gofalwyr maeth a'u rôl hanfodol wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.

Dywedodd Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol yng Nghyngor Torfaen: "Yma ym Maethu Cymru Torfaen rydym yn hynod falch o'n gofalwyr maeth. Rydym yn falch eu bod yn cael yr adnoddau sydd ar gael iddynt, ac mae'r rhain yn cael effaith gadarnhaol ar y plant yn eu gofal wrth gefnogi materion cymhleth fel trawma plentyndod.

"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr maeth trwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau maethu, ac mae'r arolwg hwn yn dangos pa mor bwysig a gwerthfawr yw'r gefnogaeth leol honno."

I ddysgu mwy am ddigwyddiadau yn ystod pythefnos gofal maeth, neu i ddod yn ofalwr maeth awdurdod lleol, ewch i https://torfaen.maethucymru.llyw.cymru
Diwygiwyd Diwethaf: 08/05/2026 Nôl i’r Brig