Wedi ei bostio ar Dydd Iau 7 Mai 2026
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi cyhoeddi y bydd ei sioe flynyddol boblogaidd yn dychwelyd, ac yn cael ei chynnal ddydd Sul 13 Medi 2026. Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn nodi blwyddyn ers i’r Fferm ailagor yn dilyn gwaith trawsnewid helaeth i ddatblygu'r gyrchfan i ymwelwyr.
Roedd Sioe Fferm Gymunedol Greenmeadow yn draddodiad cymunedol a drysorwyd ac, unwaith eto, bydd y Fferm yn ei defnyddio i ddathlu doniau lleol, creadigrwydd a chynnyrch cartref.
Meddai Rheolwr Fferm Greenmeadow, Jac Griffiths: "Mae'r sioe flynyddol yn ôl! Mae'n ddigwyddiad anhygoel lle gall pobl ar draws ein cymunedau lleol ddod at ei gilydd i ddathlu ffermio, garddio, cynnyrch a'r holl weithgareddau sy'n rhan o’r traddodiad gwledig, lleol.
"Rydyn ni'n bwriadu gwneud y digwyddiad hwn yn un arbennig dros ben wrth i ni ddathlu blwyddyn ers i ni ailagor gatiau'r fferm, felly mae’r gwaith cynllunio ar y gweill yn barod."
Bydd dosbarthiadau'r sioe yn cynnwys llysiau, llysiau unigryw, blodau, ffrwythau, crefftau, ffotograffiaeth, pobi, cyffeithiau a gwinoedd yn ogystal â nifer o gategorïau i blant. Bydd y fferm yn gwobrwyo'r rheiny sy’n creu argraff, yn ogystal â'r gwych a’r rhyfeddol.
Daw’r sioe flynyddol ar ddiwedd haf cyffrous o ddigwyddiadau, wrth i'r Fferm lunio amserlen o wythnosau ar themâu penodol, o’r Gorllewin Gwyllt i’r Syrcas a Chwedlau. Bydd manylion llawn rhaglen yr haf yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen y mis hwn.