Tref yn dathlu 25 mlynedd o statws Safle Treftadaeth y Byd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Mawrth 2026
blaenavon-project_original

Cynhaliwyd cyngerdd am ddim yr wythnos ddiwethaf i nodi 25 mlynedd ers cofrestru Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Daeth tua 300 o bobl i’r digwyddiad a gynhaliwyd yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon.

Yn ystod y gyngerdd cafwyd perfformiadau gan Gôr Meibion Blaenafon, Band Tref Blaenafon, Cwmni Theatr Adhoc, Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd a phlant ysgol o Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon.

Daeth Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd ym mis Rhagfyr 2000, i gydnabod ei thirwedd cynhyrchu haearn a glo o'r 19eg ganrif, sydd wedi'i chadw'n dda ac sy’n cynnwys tref Blaenafon.

Ers hynny, mae statws UNESCO Blaenafon wedi helpu i drawsnewid yr ardal, gan ddenu cannoedd o filoedd o ymwelwyr a mwy na £50 miliwn o fuddsoddiad.

Mae statws Treftadaeth y Byd UNESCO yn rhoi Blaenafon ar lwyfan y byd ochr yn ochr â safleoedd trawiadol eraill fel Ynysoedd y Galapagos a'r Taj Mahal.

Roedd y gyngerdd yn cynnwys atgofion y rheiny a oedd yn allweddol yn y broses o gael yr ardal wedi ei chydnabod yn swyddogol ac roedd yn dathlu'r effaith y mae hynny wedi ei chael ar y dref yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn cynnwys Gwaith Haearn Blaenafon, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a'r dirwedd ddiwydiannol ehangach.

Ym mis Rhagfyr, nododd Cyngor Tref Blaenafon ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon y 25 mlynedd trwy greu capsiwl amser i ddathlu bywyd ym Mlaenafon heddiw.

I gael rhagor o wybodaeth am hanes diwydiannol Blaenafon, ewch i Safle Treftadaeth Byd Blaenafon

Diwygiwyd Diwethaf: 27/03/2026 Nôl i’r Brig