Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 25 Mawrth 2026
Bydd Maes Parcio Glan-yr-afon ym Mhont-y-pŵl ar gau o ddydd Iau, 26 Mawrth, tan ddydd Mawrth, 31 Mawrth, er mwyn gwneud gwaith adnewyddu.
Bydd yr ardal tu mewn i'r maes parcio yn cael ei golchi a draen danddaearol yn cael ei thrwsio i leihau llifogydd ar y lefel isaf.
Bydd ceir yn gallu cael mynediad i Ganolfan Feddygol Pont-y-pŵl o hyd, trwy brif fynedfa'r maes parcio, a bydd parcio ar gael ar y lefel uchaf, trwy fynedfa Osborne Road, a fydd yn cael ei hailagor dros dro.
Mae'r gwelliannau yn rhan o bartneriaeth rhwng Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl a Chyngor Torfaen, yn unol â Bargen Torfaen.
Meddai cadeirydd y Tasglu, Dyl Delaney: "Mae'n wych gweld cymaint o grwpiau lleol yn dod at ei gilydd i gefnogi'r gwaith o lanhau Maes Parcio Glan-yr-afon. Dyma ysbryd cymunedol ar waith go iawn, ac rydyn ni’n croesawu unrhyw un a hoffai gymryd rhan mewn prosiectau yn y dyfodol."
Ychwanegodd Helen Beale, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo: "Mae hon yn enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith. Nododd y tasglu beth oedd ei angen a sut y gellid cyflawni hynny, ac rydyn ni wedi llwyddo i’w gefnogi trwy gynnig arweiniad proffesiynol a mynediad at gyllid. "Mae eu hangerdd, eu hymrwymiad a'u dealltwriaeth am y gymuned leol wedi bod yn amhrisiadwy wrth yrru'r prosiect hwn yn ei flaen."
Mae gwirfoddolwyr y Tasglu, gan gynnwys Hyrwyddwyr Sbwriel Torfaen, Cyfeillion Pont-y-pŵl, Fforwm Mynediad Torfaen a grwpiau ieuenctid amrywiol, wedi bod yn codi sbwriel y tu mewn a'r tu allan i'r maes parcio.
Byddant hefyd yn gweithio gyda Planed Iach, Pobl Iach y Cyngor i blannu coed a phlanhigion rhwng y maes parcio a’r feddygfa.
Cynhelir arolwg o’r cyflwr eleni hefyd i nodi unrhyw welliannau pellach.
Mae'r gwaith yn dilyn prosiect gan artREGEN Pont-y-pŵl a'r artist Andy O'Rourke i greu murlun mawr o ddraig wrth fynedfa’r maes parcio i gerddwyr, a 12 panel llai a ddyluniwyd gan bobl ifanc.
I gael rhagor o wybodaeth am Dasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, cysylltwch â Dyl Delaney - dyl.delaney57@gmail.com.
Mae Bargen Torfaen yn ddull gweithredu newydd sy'n canolbwyntio ar wneud penderfyniadau dan arweiniad y gymuned a rhannu cyfrifoldeb rhwng y Cyngor, trigolion a phartneriaid, i wella lleoedd lleol.