Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 21 Ionawr 2026
Mae disgwyl i gam dau o'r gwaith cynnal a chadw hanfodol ar yr A472 ym Mhont-y-pŵl ddechrau yr wythnos hon.
Disgwylir i'r gwaith i atgyfnerthu'r strwythur concrit o dan y ffordd ddechrau ddydd Mercher ac mae disgwyl iddo gymryd tri mis.
Ni fydd unrhyw darfu ar fodurwyr a bydd y gamlas a'r llwybr tynnu yn aros ar agor trwy gydol y gwaith, er y gallai fod rhywfaint o darfu ar adegau.
Roedd cam cyntaf y cynllun yn cynnwys gwaith ar wyneb y ffordd ac fe'i gwnaed yn ystod y nos i leihau'r effaith ar draffig.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'r gwaith sy'n digwydd yn hanfodol er mwyn cynnal diogelwch y bont.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda chydlynydd y gamlas a Glandŵr Cymru i sicrhau y gall pobl barhau i ddefnyddio'r gamlas yn ystod cam nesaf y gwaith, a byddwn hefyd yn diweddaru’r trigolion sy'n byw ger basn y gamlas."
Bydd cam nesaf y gwaith yn digwydd yn ystod golau ddydd.
Rydyn ni wedi cysylltu â’r bobl sy'n byw yng nghyffiniau'r bont i'w rhybuddio y gellir disgwyl rhywfaint o sŵn.
Cewch ragor o wybodaeth am sut mae'r Cyngor yn monitro ac yn cynnal a chadw dros 440 cilomedr o ffyrdd a bron i 200 o bontydd yn rhan o'i Strategaeth Rheoli Asedau Priffyrdd.