Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Chwefror 2026
Mae nifer y teithwyr mewn gorsaf drenau parcio a theithio newydd ym Mhont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd wedi cynyddu 11,000 yn y flwyddyn gyntaf.
Ers agor y cyfleusterau newydd yn Chwefror 2025, mae’r orsaf wedi gweld cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn mewn niferoedd ym mhob mis ond dau
Mae’r gwasanaeth parcio a theithio, y mae modd mynd iddo o’r A4042, yn cynnig 129 o fannau parcio cyffredinol, 11 cilfach hygyrch, parcio diogel i feiciau a beiciau modur, cilfachau gollwng a nifer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Mae gan yr orsaf bompren newydd a lifftiau sy’n addas i gadeiriau olwyn a beiciau, gwell ardal seddi ar y platfform, gwell TCC a goleuadau, a system gwybodaeth newydd a man cymorth i gwsmeriaid.
Dywedodd y Cyng. Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor: “Mae gweld nifer y teithwyr yn cynyddu yn y flwyddyn gyntaf yn arwydd clir fod cyfleuster Parcio a Theithio Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut mae pobl yn teithio.
“Mae’r buddsoddiad mewn trefniadau parcio a chyfleusterau gwell yn talu ffordd, ac mae’n annog mwy o drigolion i ddewis trafnidiaeth gynaliadwy.
“Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r cynnydd hwn, lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd a gwneud teithio ar y trên yn opsiwn mwy cyfleus a phleserus i bawb."
Dywedodd, Rheolwr Gorsaf Pont-y-pŵl a'r Dafarn Newydd o Drafnidiaeth Cymru, Samantha Fairbanks: "Mae gweld nifer y teithwyr ym Mhont-y-pŵl yn cynyddu yn wych ac yn dangos canlyniad gwaith partneriaeth agos rhwng Cyngor Sir Torfaen, Network Rail a ni.
“Mae'r bont newydd, y maes parcio a gwelliannau diogelwch allweddol eraill wedi ei gwneud yn llawer mwy hygyrch i bawb ei ddefnyddio a theithio yn hyderus.
"Fel rhan o'n cynllun Talu wrth Fynd, mae cwsmeriaid yn manteisio i'r eithaf ar brisiau rhatach i'r dref ac oddi yno ar draws de-ddwyrain Cymru.
"Rydym yn llawn cyffro i gael gweld sut y bydd yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd i ddod."
Yn ôl ffigyrau Trafnidiaeth Cymru, Ebrill a Thachwedd oedd yr unig fisoedd pan na chynyddodd nifer y teithwyr o orsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd.
Mae ffigyrau teithwyr yng ngorsaf Cwmbrân hefyd wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yr ailddatblygu gwerth £7.1 miliwn oedd y prosiect cyntaf a gwblhawyd o dan gynllun Metro a Mwy Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n rhan o raglen ehangach gwerth £50 miliwn i ddarparu Metro integredig De Cymru.
Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen.
Ymhlith y prosiectau Metro a Mwy eraill sydd ar y gweill ar draws y rhanbarth, mae Cyfnewidfa Caerffili, Cyfnewidfa Merthyr Tudful a Chyfnewidfa Trafnidiaeth y Porth.
Dim car? Gallwch gyrraedd yr orsaf drenau gyda’r bws. Dewch o hyd i’ch bws yma
Dysgwch fwy am Gorsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd