Arian ychwanegol i drwsio heolydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026
Patching with logo

Mae £100,000 ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith i drwsio heolydd y mis hwn, cyn ail gam rhaglen y cyngor i wella heolydd.  

Bydd yr arian ychwanegol yn canolbwyntio ar Varteg Road a Coed-y-Cric Road, yn Nhref Gruffydd, ger Ysbyty’r Sir, yn dilyn adroddiadau gan arolygwyr priffyrdd a thrigolion.      

Mae disgwyl i waith hefyd ddechrau y mis hwn ar ail ran o raglen pum mlynedd gwerth £6.4 miliwn i ailosod arwyneb ar briffyrdd. Bydd hyn yn golygu gwelliannau  sylweddol i heolydd lleol ar draws y fwrdeistref. 

Bydd mwy na £1m yn cael ei wario yn ystod 2026/7  ar waith ailosod arwyneb, patsio strwythurol a gwella asedau fel pontydd, rhwystrau ar heolydd a signalau.

Bydd £974,000 hefyd yn cael ei wario ar waith ailosod arwyneb ataliol ar tua 25 o heolydd.

Meddai’r Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae’r tywydd gwlyb wedi effeithio’n arw ar ein heolydd, yn yr un modd â heolydd ar draws y DU, gan waethygu tyllau, a’n rhwystro’n hymdrechion i fynd i’r afael â nhw.

"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn gwaith ataliol i leihau tyllau yn y dyfodol. Rydym wedi gwrando ar ein cymunedau a chlustnodi cyllideb ychwanegol i roi blaenoriaeth i rai o'r llwybrau yr effeithir arnynt fwyaf.

"Rydym yn deall pa mor rhwystredig y mae wedi bod i yrwyr, ond rydym yn buddsoddi mewn mynd i'r afael â’r heolydd y mae’r tywydd wedi effeithio arnynt, ac yn ymestyn bywyd yr heolydd  lle y gallwn." 

Daw rhaglen Ffyrdd Gwell Torfaen, yn dilyn arolwg cynhwysfawr o briffyrdd y fwrdeistref y llynedd.

Ariennir y rhaglen drwy £4 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol gan y cyngor a £2.44 miliwn gan Fenter Benthyca Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen yn rhedeg ochr yn ochr â rhaglen cynnal a chadw priffyrdd blynyddol y cyngor, sy'n cynnwys targedu’r gwelliannau i lwybrau prifwythiennol allweddol sydd angen sylw.                           



Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2026 Nôl i’r Brig