Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Mawrth 2026
Mae grŵp o ddisgyblion ysgol gynradd wedi dod ag amrywiaeth o straeon bwyd yn fyw i esbonio’r hyn y mae bwyd yn ei olygu iddyn nhw.
Treuliodd y tîm o Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer, ym Mhont-y-pŵl, ddau fis yn archwilio teithiau o'r fferm i'r fforc, eu hoff atgofion am fwyd, a phwysigrwydd ailgylchu gwastraff bwyd.
Fel rhan o'r prosiect, sydd dan ofal Tîm Gwydnwch Bwyd y cyngor, fe wnaeth Pasture Peckers, amaethwyr lleol, ymweld â’r plant. Cafwyd gyfle i ddysgu am ffermio cynaliadwy a blasu'r gwahaniaeth rhwng wyau o archfarchnadoedd ac wyau lleol wedi'u dodwy'n ffres.
Fe wnaethant hefyd gymryd rhan mewn sesiynau drama a arweiniodd at berfformiad byw yn Uwchgynhadledd Fwyd ‘Bwyd i Dyfu’ y mis diwethaf ar Fferm Gymunedol Greenmeadow.
Dywedodd Meghan Adkins, disgybl ym Mlwyddyn 6,: "Fe wnes i fwynhau'r prosiect yn fawr. Roedd e’n ysbrydoledig iawn ac fe wnaeth ennyn fy mrwdfrydedd dros berfformio. Fe wnes i hefyd fwynhau blasu wyau’r ffermwyr lleol.
"Roeddwn i'n synnu bod wyau lleol yn fwy blasus na’r rhai a brynwyd yn y siop. Dysgais ei bod hi'n well siopa'n lleol i gael bwydydd blasus a chefnogi ein cymuned."
Meddai Charlotte Smith, athrawes: "Roedd hwn yn brosiect gwych a roddodd gyfle i'n disgyblion fagu hyder go iawn wrth berfformio o flaen cynulleidfa, tra hefyd yn dysgu i gydweithio fel tîm.
"Fe wnaethant ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o fanteision tyfu bwyd yn lleol, a sut mae cefnogi busnesau lleol yn cryfhau ein cymuned.
"Dim ond pan fydd disgyblion yn yr ysgol y mae cyfleoedd fel hyn yn bosibl, ac mae'n ffordd bwerus o’n hatgoffa cymaint y maen nhw ar eu hennill pan maen nhw yma i gymryd rhan."
Dywedodd y Cyng. Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Mae deall o ble mae ein bwyd yn dod yn ein helpu ni i gyd i wneud dewisiadau iachach a mwy cynaliadwy.
"Mae'r prosiect hwn nid yn unig wedi rhoi cyfle i ddisgyblion ddeall y math o fwyd sy'n cael ei gynhyrchu ar ein stepen drws, mae wedi rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau perfformio sydd wedi helpu i ddod â'u gwybodaeth yn fyw."
Cafodd y prosiect tua £8,000 gan Gyllid Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Thîm Gwydnwch Bwyd y Cyngor fu’n gyfrifol am weinyddu’r cyllid.
Dewiswyd Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer i gynnal y prosiect oherwydd eu bod yn ymwneud cymaint â Phartneriaeth Bwyd Torfaen, yn datblygu prosiectau tyfu, coginio a rhannu yn yr ysgol, fel rhan o'u hymrwymiad i lythrennedd bwyd.
Siaradodd Mr Wharton, Dirprwy Bennaeth, hefyd yn yr Uwchgynhadledd Fwyd a gafodd ei chynnal yn ddiweddar ar Fferm Gymunedol Greenmeadow, yn rhan o banel addysg.
Ariennir Partneriaeth Bwyd Torfaen gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y prosiect tua £8,000 gan y Bartneriaeth Rhannu Bwyd, a Thîm Gwydnwch Bwyd y cyngor oedd yn gyfrifol am weinyddu’r cyllid.
Yn 2024 enillodd Torfaen Wobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.
Lansiwyd canllaw yn dathlu cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd a diod lleol yn yr Uwchgynhadledd Fwyd eleni, a gynhaliwyd ddydd Gwener yn Fferm Gymunedol Greenmeadow.